Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adnoddau - Dydd Mawrth, 5ed Medi, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 13 GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 13 Gorffennaf, 2023 yn gofnod cywir.

 

3.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar gyfrif mân ddyledion mewn perthynas â ffioedd rhent ar gyfer prydles sy'n ddyledus gan Bob Jones, Prytherch & Co Marts Ltd, sef swm o £390,773,56 y nodwyd nad oedd modd ei adennill. Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau. Felly, bernid ei bod yn briodol dileu'r cyfrif.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod y cyngor a gafwyd ynghylch y mater gan y Cwnsler wedi canolbwyntio ar a oedd tystiolaeth ddigonol ar gael o asedau'r cwmni i fodloni unrhyw ddyfarniad y gallai'r Cyngor ei gael neu'n gyffredinol i gwrdd â'i rwymedigaethau i'r Cyngor. Ar ben hynny, gan nad oedd y cwmni fel petai bellach yn masnachu, a'r bwriad oedd iddo gael ei ddiddymu, ychydig iawn oedd yn awgrymu y byddai unrhyw gamau gorfodi a gymerir i adennill y ddyled yn gymesur â'r gost a oedd yn gysylltiedig â hynny nac y byddai'r cwmni'n gallu bodloni canlyniadau'r camau hynny. O ganlyniad, gan ystyried amgylchiadau'r mater, nodwyd nad oedd unrhyw debygolrwydd y byddai modd adennill y ddyled.

 

PENDERFYNWYD bod y cyfrif mân ddyledion sy'n ymwneud ag ôl-ddyledion ffioedd rhent ar gyfer prydles sy'n ddyledus gan Bob Jones, Prytherch & Co Marts Ltd, sef swm o £390,773,36 fel y manylir yn yr adroddiad yn cael ei ddileu am nad oedd modd ei adennill. 

 

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

HAWDDFRAINT ARFAETHEDIG AR DIR Y TU CEFN I LWYN YR YNYS (TAI GWARCHOD), LLWYNHENDY, LLANELLI.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn o ran cynnal yr eithriad uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu gwybodaeth yn yr adroddiad gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn tanseilio sefyllfa'r Cyngor o ran trafod telerau mewn trafodion tebyg yn y dyfodol ac yn achosi risg i gyllid cyhoeddus.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gyfer hawddfraint ar dir y tu cefn i Lwyn yr Ynys (Tai Gwarchod), Llwynhendy, Llanelli.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynigion ar gyfer hawddfraint ar dir y tu cefn i Lwyn yr Ynys (Tai Gwarchod) Llwynhendy, Llanelli yn unol â'r telerau y manylir arnynt yn yr adroddiad yn amodol ar gynnal arolwg cnofilod.