Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adnoddau - Dydd Iau, 13eg Gorffennaf, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 18 MAI 2023 pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 18 Mai, 2023 yn gofnod cywir.

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

FOLLOWING CONSIDERATION OF ALL THE CIRCUMSTANCES OF THE CASE AND FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST THE CABINET MEMBER MAY CONSIDER THAT THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT, 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 ac 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Mae cyhoeddi rhenti unigol yn ddiangen ac yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth gan y byddai datgelu'n ymyrraeth ddiangen a gormodol ar fywydau preifat a theuluol yr unigolion dan sylw.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion tenantiaid presennol a chyn-denantiaid ac yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500.   

 

Nododd yr Aelod Cabinet yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad a rhoddodd ystyriaeth i'r adroddiadau unigol ar gyfer pob un o'r tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid a oedd yn manylu ar y rhesymau dros geisio dileu dyledion. Roedd y rhesymau yn cynnwys amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

 

5.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER - GORDALIADAU BUDD-DAL TAI

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Mae budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad y cyfeirir ato uchod yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad gan fod potensial i'r datgelu gael effaith anghymesur ar yr unigolion dan sylw ac nid oedd yn angenrheidiol at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn Neddf Diogelu Data 2018.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifon gordaliad budd-dal tai y nodwyd nad oedd modd eu hadennill.  Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau.  Felly roedd yn cael ei ystyried yn briodol dileu'r cyfrifon hyn yn erbyn darpariaeth ddarbodus yr Awdurdod ar gyfer drwgddyledion o ran gordaliadau Budd-dal Tai.

 

PENDERFYNWYD bod y cyfrifon dyledus y manylwyd arnynt yn yr adroddiad yn cael eu dileu am nad oedd modd adennill y taliadau.  

 

 

6.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â cheisiadau am ostyngiad yn y Dreth Gyngor yn ôl disgresiwn ac yn yr holl amgylchiadau yn yr achos roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad gan y gallai datgelu'r wybodaeth gael effaith anghymesur ar yr unigolion dan sylw ac nad oedd yn angenrheidiol at unrhyw un o'r dibenion a nodir yn Neddf Diogelu Data 2018.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn o ran y Dreth Gyngor.

 

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i awdurdodau lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol. Er bod awdurdod dirprwyedig wedi'i roi i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol i benderfynu ar geisiadau sy'n dod o fewn meini prawf penodol, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fydd yn penderfynu ar geisiadau y tu allan i'r meini prawf hynny:

 

PENDERFYNWYD:

 

5.1

Bod y dyfarniadau a nodir yn Atodiad A i'r adroddiad yn cael eu cymeradwyo a bod yr awdurdod dirprwyedig hwnnw'n cael ei roi i Reolwr y Gwasanaethau Refeniw i gymeradwyo lleihau, dileu neu gynyddu'r dyfarniad pe bai newid mewn amgylchiadau yn y dyfodol;

5.2

Bod ceisiadau 60400061-6, 60332021-5 a 60415766-0 yn cael eu caniatáu, yn unol â'r symiau a nodir yn yr adroddiad.

5.3

Bod y swm dyledus mewn perthynas â rhif 60409283-7 mewn perthynas â'r cyfnod 4.4.22 – 14.8.22 yn cael ei ddileu.

 

 

 

7.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER - TRETHI ANNOMESTIG

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â cheisiadau am ddileu Ardrethi Annomestig anadferadwy ac yn holl amgylchiadau'r achosion roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad gan y gallai datgelu'r wybodaeth gael effaith anghymesur ar yr unigolion dan sylw ac nad oedd yn angenrheidiol at unrhyw un o'r dibenion a nodir yn Neddf Diogelu Data 2018.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifon y nodwyd nad oedd modd eu hadennill. Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau. Felly, bernid ei bod yn briodol dileu'r cyfrifon hyn.

 

PENDERFYNWYD dileu'r ôl-ddyledion, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.