Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 16 MAWRTH 2023 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023, gan ei fod yn gywir. |
|
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. |
|
TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â cheisiadau am ostyngiad yn y Dreth Gyngor yn ôl disgresiwn ac yn yr holl amgylchiadau yn yr achos roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu gwybodaeth gan y gallai datgelu'r wybodaeth gael effaith anghymesur ar yr unigolion dan sylw ac nad oedd yn angenrheidiol at unrhyw un o'r dibenion a nodir yn Neddf Diogelu Data 2018.
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn o ran y Dreth Gyngor.
Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol. Er bod awdurdod dirprwyedig wedi'i roi i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol i benderfynu ar geisiadau sy'n dod o fewn meini prawf penodol, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fydd yn penderfynu ar geisiadau y tu allan i'r meini prawf hynny:
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gostyngiadau yn ôl disgresiwn o ran y Dreth Gyngor, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad. |
|
FFERM PARCGWYN, TALACHARN, SIR GAERFYRDDIN SA33 4RD Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn o ran cynnal yr eithriad uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar ddyfodol Fferm Parcgwyn Talacharn.
PENDERFYNWYD mabwysiadu Opsiwn 3 y manylir arno yn yr adroddiad o ran dyfodol Fferm Parcgwyn Talacharn |