Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 9FED RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2022 yn gofnod cywir.

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â cheisiadau am ostyngiad yn y Dreth Gyngor yn ôl disgresiwn ac yn yr holl amgylchiadau yn yr achos roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu gwybodaeth gan y gallai datgelu'r wybodaeth gael effaith anghymesur ar yr unigolion dan sylw ac nad oedd yn angenrheidiol at unrhyw un o'r dibenion a nodir yn Neddf Diogelu Data 2018.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn o ran y Dreth Gyngor.

 

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol. Er bod awdurdod dirprwyedig wedi'i roi i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol i benderfynu ar geisiadau sy'n dod o fewn meini prawf penodol, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fydd yn penderfynu ar geisiadau y tu allan i'r meini prawf hynny:

 

PENDERFYNWYD:

4.1

bod y dyfarniadau a nodir yn Atodiad A i'r adroddiad yn cael eu cymeradwyo a bod yr awdurdod dirprwyedig hwnnw'n cael ei roi i Reolwr y Gwasanaethau Refeniw i gymeradwyo lleihau, dileu neu gynyddu'r dyfarniad pe bai newid mewn amgylchiadau yn y dyfodol;

4.2

Bod cais rhif 86683 a chais rhif 107526 yn cael eu cymeradwyo yn y symiau a nodir yn yr adroddiad a bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Reolwr y Gwasanaethau Refeniw i gymeradwyo lleihau, dileu neu gynyddu'r dyfarniad pe bai newid mewn amgylchiadau yn y dyfodol

 

5.

CYTUNDEB TENANTIAETH ARFAETHEDIG Y FFWRNES FACH, LLANELLI

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud  materion tenantiaeth ac yn yr holl amgylchiadau yn yr achos roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu gwybodaeth gan y gallai datgelu'r wybodaeth danseilio safle negodi'r Cyngor mewn trafodion tebyg yn y dyfodol ac y gallai achosi risg i gyllid cyhoeddus.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar roi cytundeb tenantiaeth i Ffwrnes Fach, Llanelli.

 

PENDERFYNWYD rhoi cytundeb tenantiaeth i Ffwrnes Fach, Llanelli yn unol â'r telerau y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau