Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adnoddau - Dydd Iau, 17eg Tachwedd, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 6 MEDI 2022 pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 6 Medi, 2022 yn gofnod cywir.

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion a oedd yn talu'r dreth gyngor ac roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn gan y byddai datgelu’r wybodaeth yn arwain at ymyrraeth ormodol heb gyfiawnhad i fywyd preifat a bywyd teuluol yr unigolyn dan sylw.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau a oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn i'r Dreth Gyngor.

 

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, gan ddod i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

4.1 ynghylch cais cyfeirnod 60414199-2, dileu'r swm o £535.18 o ran y dreth gyngor am y cyfnod rhwng 1.4.22 a 24.8.22;

4.2 ynghylch cais cyfeirnod 60401076-7, dileu'r swm sy'n ddyledus, sef £469.43;

4.3 o ran cyfeirnod cais 60394806-X, i ddileu'r ôl-ddyledion o £29.06 ar gyfer  2020/21 a rhoi gostyngiad o 50% ar yr ôl-ddyledion o £525.41 ar gyfer 2021/22;

4.4 ynghylch cais cyfeirnod 60394102-5, dileu'r swm o £1767.91;

4.5 ynghylch cais cyfeirnod 98957, dyfarnu swm sy'n hafal i Ostyngiad y Dreth Gyngor a ddyfarnwyd yn wreiddiol, sef £2,668.94, ar gyfer y cyfnod rhwng 19 Awst 2016 a 6 Awst 2019;

4.6 ynghylch cais cyfeirnod 40022424, cymeradwyo dyfarniad yn ôl disgresiwn o £1412.47 ac awdurdodi swyddogion i gymeradwyo lleihau, dileu neu gynyddu'r dyfarniad os bydd yr amgylchiadau'n newid yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

5.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER - GORDALIADAU BUDD-DAL TAI

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad gan y byddai datgelu yn golygu y byddai gwybodaeth sensitif am yr unigolion yn cael ei datgelu'n anghymesur i'r cyhoedd.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar gyfrifon gordaliad budd-dal tai oedd wedi'u clustnodi'n rhai nad oedd modd eu hadennill.  Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau.  Felly roedd yn cael ei ystyried yn briodol dileu'r cyfrifon hyn yn erbyn darpariaeth ddarbodus y Cyngor o ran drwgddyledion ar gyfer gordaliadau Budd-dal Tai.

 

PENDERFYNWYD bod y cyfrifon dyledus y manylwyd arnynt yn yr adroddiad yn cael eu dileu am nad oedd modd adennill y taliadau.

 

 

6.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig sy'n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unigolyn (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Er y byddai budd y cyhoedd fel arfer yn ffafrio tryloywder a bod yn agored, mae'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na’r budd i’r cyhoedd i ddatgelu'r wybodaeth oherwydd gallai arwain at ymyrraeth ormodol heb gyfiawnhad i fywyd preifat a bywyd teuluol yr unigolyn dan sylw.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrif a nodwyd nad oedd modd ei adennill. Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau. Felly, bernid ei bod yn briodol dileu'r cyfrif hwn.

 

PENDERFYNWYD dileu'r ôl-ddyledion, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

7.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi rhenti unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol. Felly yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, a oedd nodi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion tenantiaid presennol a chyn-denantiaid ac yn gofyn am ddileu'r dyledion hynny o fwy na £1,500.

 

Nododd yr Aelod Cabinet yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad a rhoddodd ystyriaeth i'r adroddiadau unigol ar gyfer pob un o'r tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid a oedd yn manylu ar y rhesymau dros geisio dileu dyledion. Roedd y rhesymau yn cynnwys amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.