Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Multi Location - Cabinet Member Office - County Hall, Carmarthen. SA31 1JP and Remote.

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi’i gynnal ar 14 Gorffennaf, 2022, gan ei fod yn gywir.

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

4.

TRETH Y CYNGOR - GOSTYNGIADAU YN ÔL DISGRESIWN

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion a oedd yn talu'r dreth gyngor ac roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad gan y gallai datgelu'r wybodaeth gael effaith anghymesur ar yr unigolion dan sylw ac na fyddai'n angenrheidiol at unrhyw un o'r dibenion a nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf Diogelu Data 2018.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y ceisiadau oedd wedi dod i law am ostyngiadau yn ôl disgresiwn o ran y Dreth Gyngor, lle roedd naill ai'r hawlydd neu'r partner yn derbyn pensiwn rhyfel.

 

Nodwyd bod rheoliadau wedi eu cyflwyno, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2004, a roddai bwerau disgresiwn i Awdurdodau Lleol roi disgownt neu ostyngiad a benderfynwyd yn lleol o ran y Dreth Gyngor, a bod y rhain yn ychwanegol at y gostyngiadau statudol presennol. 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi achosion lle petai'r Cyngor wedi mabwysiadu'r Cynllun Rhagnodedig, byddai'r incwm a fyddai wedi cael ei dderbyn drwy'r pensiynau hyn wedi cael ei ddiystyru'n llawn, gan arwain at ddyfarniad uwch o Ostyngiad y Dreth Gyngor.

 

4.1

Cymeradwyo'r dyfarniadau y manylir arnynt yn yr adroddiad;

 

4.2

Bydd pob dyfarniad yn cynrychioli faint o fudd-dal y byddent wedi'i dderbyn pe bai'r swm llawn o bensiwn rhyfel wedi'i ddiystyru;

 

4.3

Rhoi awdurdod dirprwyedig i Reolwr y Gwasanaethau Refeniw gymeradwyo lleihau neu ddileu'r dyfarniad os bydd newid mewn amgylchiadau yn y dyfodol;

 

4.4

Rhoi awdurdod dirprwyedig i Reolwr y Gwasanaethau Refeniw gynyddu'r dyfarniad os bydd amgylchiadau yn newid.

 

5.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol  (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, gan gynnwys manylion am eu hôl-ddyledion rhent, ac felly ystyriwyd bod datgelu'r wybodaeth yn ymyrraeth ormodol a heb gyfiawnhad i fywydau preifat a theuluol yr unigolion dan sylw.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion tenantiaid presennol a chyn-denantiaid ac yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500.   

 

Nododd yr Aelod Cabinet yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad a rhoddodd ystyriaeth i'r adroddiadau unigol ar gyfer pob un o'r tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid a oedd yn manylu ar y rhesymau dros geisio dileu dyledion. Roedd y rhesymau yn cynnwys amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

6.

FFERM DANYRHEOL, SANCLÊR, SIR GAERFYRDDIN, SA33 4NF

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol  (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth a fyddai, o'i datgelu, yn debygol o danseilio'r Cyngor mewn unrhyw drafodaethau dilynol. Felly roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Yn unol â'r weithdrefn gyfreithiol a nodwyd yn yr adroddiad, ystyriodd yr Aelod Cabinet gynigion ar gyfer tenantiaeth Fferm Danyrheol, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, SA33 4NF yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD  bod y Cyngor yn ymrwymo i Denantiaeth Busnes Fferm newydd â Mr Lyn Davies o Fferm Danyrheol Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, SA33 4NF.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau