Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
DIWEDDARIAD POLISI DISWYDDO. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried Polisi a Gweithdrefn Dileu Swyddi diwygiedig arfaethedig y Cyngor a oedd wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r gofynion statudol a gyflwynwyd gan Ddeddf Diogelu rhag Dileu Swyddi (Beichiogrwydd ac Absenoldeb Teuluol) 2023.
Daeth y Ddeddf i rym ar 24 Gorffennaf 2023, a darparodd reoliadau diogelu o ran dileu swyddi a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr sy'n ystyried dileu swydd roi'r cynnig cyntaf ar gyfer swydd wag addas arall i weithiwr ar absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir, os oes swydd wag addas yn bodoli. Byddai'r mesurau diogelu o ran dileu swyddi yn berthnasol o'r adeg y rhoddodd gweithiwr wybod i'r cyflogwr am feichiogrwydd, tan chwe mis ar ôl dychwelyd o absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r newidiadau statudol rhagnodedig a wnaed i Bolisi a Gweithdrefn Dileu Swyddi'r Cyngor. |