Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5ED TACHWEDD, 2024 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2024 yn gofnod cywir.
|
|||||||
Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a nodai lefel y gweithgarwch cuddwylio a wnaed gan yr Awdurdod yn ystod 2024 gan adolygu'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd ar gyfer gweithgarwch o'r fath.
Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) yn darparu fframwaith cyfreithiol lle gall y Cyngor ofyn am awdurdodiad i gynnal gweithgarwch cuddwylio mewn amgylchiadau cyfyngedig penodol.
Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd yr Awdurdod wedi defnyddio'i bwerau o dan y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio er mwyn caffael data cyfathrebu hyd yn hyn, bu 5 achlysur pan ofynnwyd am gyngor ynghylch Cuddwylio gan Swyddog Ymchwilio. Nid oedd angen cael awdurdodiad cuddwylio ym mhob achos a rhoddwyd cyngor yn unol â hynny.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelod Cabinet nad oedd unrhyw newidiadau wedi eu gwneud i’r ddogfen weithdrefnau ers iddi gael ei hadolygu diwethaf, er y nodwyd bod mân gywiriadau wedi'u cynnwys ers cyhoeddi'r agenda a oedd yn cynnwys enwau swyddogion cyfrifol yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
|
|||||||
CYNNYDD Y CYNLLUN CYDNABOD CYFLOGWYR AMDDIFFYN Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynnydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn. Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am statws Aur, nodwyd bod yn rhaid i'r Awdurdod gymeradwyo'r 10 diwrnod o absenoldeb ychwanegol â thâl ar gyfer milwyr wrth gefn Ei Fawrhydi a gwyliau ychwanegol ar gyfer Gwirfoddolwyr sy'n Oedolion gyda'r Cadetiaid.
Nododd yr Aelod Cabinet mai Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn oedd y gydnabyddiaeth uchaf i gyflogwyr sy'n dangos cefnogaeth ragorol i gymuned y Lluoedd Arfog. Byddai sicrhau'r Wobr Aur yn cadarnhau ymrwymiad yr Awdurdod i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. I fod yn gymwys i wneud cais am y Wobr Aur, byddai angen i'r Awdurdod fodloni meini prawf hanfodol gan gynnwys darparu 10 diwrnod o absenoldeb â thâl llawn i aelodau Lluoedd Wrth Gefn EF ymgymryd â'u hymrwymiadau hyfforddi a'u dyletswyddau blynyddol. Mae meini prawf Aur hefyd yn gofyn i gyflogwyr ystyried darparu gwyliau ychwanegol (â thâl) ar gyfer Gwirfoddolwyr sy'n Oedolion gyda'r Cadetiaid er mwyn iddynt gwblhau eu hymrwymiadau hyfforddi blynyddol. Nodwyd nad oedd y meini prawf o ran y Gwirfoddolwyr sy'n Oedolion gyda'r Cadetiaid yn hanfodol ar gyfer statws Gwobr Aur.
Yn seiliedig ar y dadansoddiad o geisiadau am absenoldeb di-dâl dros y flwyddyn ddiwethaf, dim ond un gweithiwr oedd wedi'i nodi ei hun fel milwr wrth gefn ac nid oedd dim un o’r gweithwyr wedi cael eu nodi fel Gwirfoddolwyr sy'n Oedolion gyda'r Cadetiaid. Ar y sail honno, credwyd mai bach iawn fyddai'r gost o roi absenoldeb â thâl i'r ddau gategori.
PENDERFYNWYD:
|