Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd - Dydd Llun, 29ain Gorffennaf, 2024 3.00 yp

Lleoliad: Aml leoliad - Ystafell Bwyllgor 3, Llawr Gwaelod - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2024, gan ei fod yn gywir.

 

3.

CREU POLISI GOSOD LLEOL AR GYFER DATBLYGIAD NEWYDD O 8 FFLAT 2 YSTAFELL WELY YN YMCA, LLANELLI pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i greu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad Cyngor Sir Caerfyrddin yn yr YMCA, Llanelli.

 

Cafodd yr YMCA gyllid Trawsnewid Trefi i drawsnewid hen adeilad yr YMCA, a oedd yn cynnwys gwaith ailddatblygu ar gyfer unedau masnachol ac 8 fflat 2 ystafell wely.  Mae'r adeilad wedi'i leoli yn Ward Tyshia sydd ymhlith y 10% uchaf o ran yr ardaloedd mwyaf amddifad yng Nghymru.

 

Fel y nodwyd yng Nghynllun Cyflawni Adfywio Canol Tref Llanelli Cyngor Sir Caerfyrddin 2018, roedd gweledigaeth glir ar gyfer canol y dref fel lle i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. 

 

Roedd y prosiect yn cyd-fynd â Rhaglen Symud Cymru Ymlaen Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi busnesau, yn annog sgiliau a chyflogaeth yn ogystal â darparu unedau tai am bris fforddiadwy.

 

Nododd yr adroddiad ward Tyisha, lle mae datblygiad yr YMCA wedi'i leoli fel ardal o angen mawr am dai, ac felly nod y datblygiad oedd mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu 8 fflat 2 ystafell wely ar gyfer rhentu cymdeithasol. Fel y nodwyd yn y cais am Gyllid Trawsnewid Trefi, byddai angen bodloni'r meini prawf canlynol:

 

·      Aelwydydd lle mae aelod mewn gwaith llawn amser neu ar incwm ymddeoliad;

·      Aelwydydd ag anabledd, sy'n gweithio'n rhan-amser ond yn gallu fforddio'r rhent;

·      Aelwydydd lle mae aelod yn gweithio'n rhan-amser ond yn gallu fforddio'r rhent;

·      Pobl sy’n gweithio yng nghanol y dref;

·      Pobl sy'n dechrau busnes yn Llanelli;

·       Aelwydydd lle mae o leiaf un aelod yn weithiwr allweddol. 

·      Tenantiaid Tai Cymdeithasol presennol sy'n tanfeddiannu eu cartref ac sy'n dymuno symud i eiddo llai a fydd yn rhyddhau cartref o faint teuluol.

 

Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu, meini prawf a gweithwyr allweddol i'r Aelod Cabinet.

 

Byddai'r Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau ar waith am flwyddyn ar ôl i'r fflatiau cychwynnol gael eu gosod, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol.  Mae'r polisi hwn yn disodli unrhyw bolisïau gosodiadau lleol blaenorol a gymeradwywyd ar gyfer y cynllun hwn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer y cartrefi newydd yn yr YMCA, Llanelli, sef datblygiad newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.