Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 27AIN HYDREF 2022 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 27 Hydref, 2022 yn gofnod cywir.
|
|||||||
ADBORTH AR Y GRONFA TLODI Cofnodion: Atgoffwyd yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd, yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 27 Hydref y rhoddwyd cymeradwyaeth ar gyfer gweinyddu grant trydydd parti o'r enw 'Y Gronfa Tlodi' a oedd yn agored i unrhyw sefydliad â chyfansoddiad sy'n ceisio cael cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu tlodi yn Sir Gaerfyrddin. Roedd cyfanswm y gyllideb grant o £180,481 wedi'i ddarparu trwy wahanol ffynonellau cyllid gan Lywodraeth Cymru gyda grantiau rhwng £1,000 a £10,000 ar gael.
Yn dilyn y cyfarfod uchod, roedd swm ychwanegol o £50,000 gan Lywodraeth Cymru wedi ei dderbyn o'i Gronfa Ddewisol ynghyd â £57,174 o'r Cynllun Cymorth Bwyd Uniongyrchol. Cynigiwyd felly, gyda'r cyllid ychwanegol, y dylid cynyddu'r gyllideb gyffredinol o £180,481 i £287,655. Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai pob cais yn cael ei asesu gan Banel Cyllido'r Biwro o dan y p?er dirprwyedig a roddwyd i'r Pennaeth Adfywio i ddyfarnu cyllid hyd at uchafswm o £10,000 fesul ymgeisydd
PENDERFYNWYD yn dilyn derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, y dylid cynyddu Cyllideb y Gronfa Tlodi a gymeradwywyd o £180,481 i £287,655 i'w weinyddu gan dîm Biwro Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rhan o'r is-adran Datblygu Economaidd.
|
|||||||
CRONFA CYMORTH AELWYDYDD Cofnodion: Atgoffwyd yr Aelod Cabinet yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref y rhoddwyd cymeradwyaeth i sefydlu Cronfa Gymorth i Aelwydydd, a gyllidwyd yn llawn drwy Lywodraeth Cymru, i gefnogi pobl sy'n wynebu tlodi bwyd.
Nodwyd mai £91,156 oedd lefel y cyllid oedd ar gael, ac er mwyn nodi'r galw, cysylltwyd â banciau bwyd ym mis Hydref 2022 gan roi gwahoddiad iddynt gyflwyno cais am arian a manylu ar lefel y gefnogaeth y byddai ei angen arnynt dros gyfnod o bedwar mis o ganol mis Tachwedd 2022 hyd at ganol mis Mawrth 2023. Nodwyd bod yr awdurdod wedi cysylltu yn uniongyrchol â 16 banc bwyd y manylir arnynt yn yr adroddiad a bod un banc bwyd newydd ychwanegol wedi cysylltu â'r awdurdod yn uniongyrchol. Roedd pob cais a dderbyniwyd wedi cael ei asesu gan banel grant y Biwro ac roedd wedi argymell dyfarnu cyllid i'r 8 banc bwyd canlynol gyda'r symiau a nodir isod:-
1) Pantri Cwmaman £7,000 2) Myrtle House £15,000 3) Christ Church £4,000 4) Canolfan Gristnogol Antioch £2,800 5) Banc Bwyd Llwynhendy £15,000 6) Banc Bwyd Tyisha £12,000 7) Banc Bwyd Llannon/Tymbl £6,000 8) CETMA £3,500
Dywedwyd wrth yr Aelod Cabinet pe bai pob cais yn cael ei gymeradwyo byddai cyfanswm y dyfarniad grant yn £65,300 gan adael swm o £25,856. Er i'r adroddiad argymell trosglwyddo'r swm oedd heb ei ddyrannu i Gronfa Tlodi ehangach y Sir, dywedwyd bod 16 o'r sefydliadau a nodir yn yr adroddiad heb ymateb i gais cychwynnol y cyngor na'r nodyn atgoffa e-bost dilynol. O ganlyniad, holwyd a fyddai'n ddoeth gohirio trosglwyddo'r cyllid oedd heb ei ddyrannu am y tro er mwyn caniatáu amser i gysylltu â'r sefydliadau hyn eto.
PENDERFYNWYD
|