Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd - Dydd Iau, 27ain Hydref, 2022 3.30 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 5ED GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5ed Gorffennaf 2022, gan ei fod yn gywir.

3.

CRONFA CYMORTH AELWYDYDD pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd yn ystyried adroddiad yn manylu ar sefydlu Cronfa Gymorth i Aelwydydd, wedi'i hariannu'n llawn gan gymorth grant Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru, i alluogi'r awdurdod i gefnogi’r nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd. Byddai'r gronfa yn cefnogi strategaethau a chynlluniau presennol y Sir i gefnogi'r rheiny sy'n wynebu tlodi, gan gynnwys y Strategaeth Gorfforaethol ac Asesiad Llesiant Sir Gaerfyrddin. Byddai'r gronfa hefyd yn cyd-fynd â 7 nod Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD

 

3.1 cymeradwyo'n ôl-weithredol y gwaith o ddarparu'r Gronfa Gymorth i Aelwydydd a weinyddir gan dîm Biwro y Cyngor yn yr is-adran Datblygu Economaidd;

 

3.2 cymeradwyo dirprwyaeth i'r Pennaeth Adfywio i ddyfarnu’r cyllid;

 

3.3 cymeradwyo dirprwyaeth i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd, i drosglwyddo unrhyw danwariant i gronfa dlodi ehangach y Sir os bydd angen.

 

4.

CRONFA TLODI pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd yn ystyried adroddiad yn manylu ar sefydlu Grant Trydydd Parti i gefnogi'r nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd drwy ddarparu cymorth ariannol i alluogi sefydliadau lleol i fodloni anghenion lleol. Byddai'r grant yn agored i unrhyw fudiad â chyfansoddiad a oedd yn gofyn am gefnogaeth ar gyfer y rhai sy'n wynebu tlodi yn Sir Gaerfyrddin. Byddai'r grant, a fyddai'n cael ei ariannu'n llawn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cefnogi strategaethau a chynlluniau presennol y Sir i gefnogi'r rhai sy'n wynebu tlodi, gan gynnwys y Strategaeth Gorfforaethol ac Asesiad Llesiant Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD

 

4.1 cymeradwyo sefydlu Grant Trydydd Parti yn ôl-weithredol, a weinyddir gan dîm Biwro y Cyngor yn yr is-adran Datblygu Economaidd, i gefnogi'r rhai sy'n wynebu tlodi;

 

4.2 cymeradwyo dirprwyaeth i'r Pennaeth Adfywio i ddyfarnu cyllid o hyd at uchafswm o £10k fesul ymgeisydd.