Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 28AIN MAWRTH 2023 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28ain Mawrth 2023, gan ei fod yn gywir. |
|
CRONFA CYMORTH BWYD UNIONGYRCHOL Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad yn manylu ar geisiadau am gymorth drwy gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol Llywodraeth Cymru i gefnogi'r nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd.
PENDERFYNWYD
3.1 cymeradwyo'n ôl-weithredol y gwaith o ddarparu'r Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol a weinyddir gan dîm Biwro Cyngor Sir Caerfyrddin yn yr is-adran Datblygu Economaidd;
3.2 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol a gafwyd fel rhan o'r Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol:
· Tyisha Foodbank - £8,000 · Christ Church Foodbank - £8,000 · CETMA - £4,000 · Llanelli Foodbank (Myrtle House) - £10,000 · Llwynhendy Foodbank - £10,000 · Salvation Army - £1,000 · Cwmamman Pantry - £5,500 · Llannon Pantry - £6,500 · Llandovery Foodbank - £2,500 · Banc Bwyd CNE - £500 (hyd at fwyafswm o £1,000 os bydd yr angen yn codi);
3.3 cymeradwyo dirprwyo'r grym i'r Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol ddyfarnu cyllid ar gyfer rowndiau pellach os daw cyllid ychwanegol ar gael a phenderfynu ar gais hwyr a ddaeth i law gan Fanc Bwyd Rhydaman.
|