Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
POLISI GOSOD LLEOL AR GYFER SAFLE STORI YN NANT Y DDERWEN, DRE-FACH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad i gymeradwyo Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer safle presennol yn Nant y Dderwen, Dre-fach, Sir Gaerfyrddin.
Nododd yr Aelod Cabinet y byddai Polisi Gosodiadau Lleol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Nant y Dderwen, Dre-fach, yn addasiad i brif bolisi gosodiadau'r Awdurdod, lle byddai meini prawf ychwanegol penodol ar waith i ystyried yr angen presennol am dai a materion lleol. Byddai hyn yn sicrhau bod yr Awdurdod yn darparu atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, a byddai hyn yn cyflawni'r amcan i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, gan helpu i greu cymuned gynaliadwy.
Roedd safle Dre-fach wedi'i leoli o fewn ward Gors-las a byddai'n darparu 8 t? rhent cymdeithasol:-
· 3 x t? 2 ystafell wely; a · 5 x t? 3 ystafell wely
Dywedodd yr Uwch Rheolwr Tai fod yr aelodau lleol ar gyfer y safle, sef y Cynghorwyr Darren Price ac Aled Vaughan Owen, wedi mynegi eu cefnogaeth i'r cynnig ar sail meini prawf gosod teg a doedd gan Fwrdd Partneriaeth Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) ddim gwrthwynebiad.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleolyn safle Stori Nant y Dderwen ar gyfer 3 x t? 2 ystafell wely a 5 x t? 3 ystafell wely.
|