Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd - Dydd Mercher, 16eg Hydref, 2024 11.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 29 GORFFENNAF 2024 pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir.

 

 

3.

POLISÏAU GOSODIADAU LLEOL AR GYFER TŶ WAUNIAGO, CAERFYRDDIN A DATBLYGIAD POBL YNG NGHAEGAR, LLANELLI pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad i gymeradwyo Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer dau ddatblygiad newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn: 

 

  • Wauniago, Caerfyrddin – 4 o gartrefi
  • Caegar, Llanelli - 20 o gartrefi

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai'r datblygiadau newydd yn Wauniago, Caerfyrddin a Chaegar, Llanelli at ei gilydd yn darparu 24 o gartrefi ychwanegol a fyddai'n cael eu rheoli gan Wasanaethau Tai Cyngor Sir Caerfyrddin a Chymdeithas Tai Pobl.

 

Roedd y Polisïau Gosodiadau Lleol ynghlwm wrth yr adroddiad wedi cael eu llunio i sicrhau bod cymunedau cynaliadwy yn cael eu creu o gychwyn y datblygiad newydd. Y prif flaenoriaethau fel y'u nodwyd yn yr adroddiad fyddai dyrannu cartrefi i'r rhai oedd â'r angen mwyaf am dai yn ogystal â meddu ar gysylltiad cymunedol:-

 

       Dyrannu cartrefi i'r rhai yn A, B ac C â chysylltiad cymunedol

       Ystyried dyraniadau i weithwyr allweddol neu denantiaid presennol sy'n tanfeddiannu eu cartrefi ac y mae'r dreth ystafell wely yn effeithio arnynt.

 

Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu, meini prawf a gweithwyr allweddol i'r Aelod Cabinet.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Rheolwr HWB Tai fod yr aelodau lleol ar gyfer y wardiau priodol wedi cael gwybod, a'u bod yn cefnogi'r Polisïau Gosodiadau Lleol yn llwyr. At hynny, byddai diweddariad adeg y dyraniad cyntaf yn cael ei roi i'r Aelodau Lleol a'r Aelod Cabinet.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer datblygiadau newydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Wauniago, Caerfyrddin a Chaegar, Llanelli.