Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2 RHAGFYR 2025 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2024 yn gofnod cywir.
|
|||||||||
PENNU RHENT AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2025/26 Cofnodion:
Hysbyswyd yr Aelod Cabinet fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Cyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd.
Er bod pob Awdurdod Lleol a Chymdeithas Dai yng Nghymru wedi alinio â'r polisi pennu rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â'r lefelau rhent ar gyfer tai cymdeithasol, nid oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly, nid oedd y lefelau rhent a godir yn cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, barnwyd ei bod yn deg ac yn rhesymol cynyddu rhenti ar y safle gan ddilyn yr un fformiwla a ddefnyddiwyd ar gyfer tenantiaid y Cyngor. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, roedd yr adroddiad yn cynnig bod cynnydd o 2.7% ac argymhellwyd pennu'r lefelau rhent wythnosol ar gyfer 2025/26 ar £67.75 yr wythnos (net taliadau am wasanaethau a threthi d?r) gan ddarparu incwm blynyddol o £48,780 ar gyfer 2025/26, pe bai pob un o'r 15 llain yn cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn.
Wrth ystyried yr eitemau unigol a nodir yn nhabl 1, gofynnodd yr Aelod Cabinet i swyddogion sicrhau bod y taliadau gwasanaeth yn parhau i ddarparu gwerth am arian.
PENDERFYNWYD:
|