Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 06 MAWRTH 2023 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 06 Mawrth 2023, gan ei fod yn gywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i gyflwyno Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad adeiladu newydd Cymdeithas Tai Wales & West o 45 o breswylfeydd ym Maes yr Hufenfa, Sanclêr.
Roedd cyflwyno'r Polisi Gosodiadau Lleol, yn unol ag adran 167(2E) o Ddeddf Tai 1996, yn addasiad i brif bolisi gosodiadau'r Awdurdod, lle byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu pennu i ystyried yr angen presennol am dai a materion lleol. Yn benodol, nod y Polisi Gosodiadau Lleol oedd darparu atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol a hwyluso'r gwaith o greu cymuned gytbwys a chynaliadwy.
Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu i'r Aelod Cabinet, ac eglurwyd y byddai cymysgedd o denantiaid ar draws y bandiau er mwyn i'r gymuned gynnwys cymysgedd o aelwydydd, ac ni fyddent i gyd yn achosion lle mae angen mawr. Yn hyn o beth, y nod oedd sefydlu cydlyniant cymunedol a chartrefi cynaliadwy ar gyfer y datblygiad newydd, gan ddod â chymuned newydd sbon at ei gilydd. Eglurwyd i'r Aelod Cabinet y byddai'r eiddo'n cael ei ddyrannu, cyn belled ag y bo modd, yn unol â gofynion ymgeiswyr.
Byddai'r Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau ar waith am gyfnod o chwe mis ar ôl i'r holl dai gael eu gosod, ac yn dilyn hynny byddai adolygiad yn cael ei gynnal gan WWH i benderfynu ar ei effaith ar y gymuned a sicrhau bod nodau'r polisi wedi'u cyflawni. Byddai'r asesiad hwn yn cael ei ddefnyddio i benderfynu a ddylid ymestyn y cyfnod.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer y cartrefi newydd ym Maes yr Hufenfa, datblygiad adeiladu newydd Cymdeithas Tai Wales & West.
|