Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 27AIN HYDREF 2022 pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 27 Hydref, 2022 yn gofnod cywir.

 

3.

ADBORTH AR Y GRONFA TLODI pdf eicon PDF 170 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd, yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 27 Hydref y rhoddwyd cymeradwyaeth ar gyfer gweinyddu grant trydydd parti o'r enw 'Y Gronfa Tlodi' a oedd yn agored i unrhyw sefydliad â chyfansoddiad sy'n ceisio cael cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu tlodi yn Sir Gaerfyrddin. Roedd cyfanswm y gyllideb grant o £180,481 wedi'i ddarparu trwy wahanol ffynonellau cyllid gan Lywodraeth Cymru gyda grantiau rhwng £1,000 a £10,000 ar gael.

 

Yn dilyn y cyfarfod uchod, roedd swm ychwanegol o £50,000 gan Lywodraeth Cymru wedi ei dderbyn o'i Gronfa Ddewisol ynghyd â £57,174 o'r Cynllun Cymorth Bwyd Uniongyrchol. Cynigiwyd felly, gyda'r cyllid ychwanegol, y dylid cynyddu'r gyllideb gyffredinol o £180,481 i £287,655. Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai pob cais yn cael ei asesu gan Banel Cyllido'r Biwro o dan y p?er dirprwyedig a roddwyd i'r Pennaeth Adfywio i ddyfarnu cyllid hyd at uchafswm o £10,000 fesul ymgeisydd

 

PENDERFYNWYD yn dilyn derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, y dylid cynyddu Cyllideb y Gronfa Tlodi a gymeradwywyd o £180,481 i £287,655 i'w weinyddu gan dîm Biwro Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rhan o'r is-adran Datblygu Economaidd.

 

4.

CRONFA CYMORTH AELWYDYDD pdf eicon PDF 179 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd yr Aelod Cabinet yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref y rhoddwyd cymeradwyaeth i sefydlu Cronfa Gymorth i Aelwydydd, a gyllidwyd yn llawn drwy Lywodraeth Cymru, i gefnogi pobl sy'n wynebu tlodi bwyd.

 

Nodwyd mai £91,156 oedd lefel y cyllid oedd ar gael, ac er mwyn nodi'r galw, cysylltwyd â banciau bwyd ym mis Hydref 2022 gan roi gwahoddiad iddynt gyflwyno cais am arian a manylu ar lefel y gefnogaeth y byddai ei angen arnynt dros gyfnod o bedwar mis o ganol mis Tachwedd 2022 hyd at ganol mis Mawrth 2023. Nodwyd bod yr awdurdod wedi cysylltu yn uniongyrchol â 16 banc bwyd y manylir arnynt yn yr adroddiad a bod un banc bwyd newydd ychwanegol wedi cysylltu â'r awdurdod yn uniongyrchol. Roedd pob cais a dderbyniwyd wedi cael ei asesu gan banel grant y Biwro ac roedd wedi argymell dyfarnu cyllid i'r 8 banc bwyd canlynol gyda'r symiau a nodir isod:-

 

1)    Pantri Cwmaman £7,000

2)    Myrtle House £15,000

3)    Christ Church £4,000

4)    Canolfan Gristnogol Antioch £2,800

5)    Banc Bwyd Llwynhendy £15,000

6)    Banc Bwyd Tyisha £12,000

7)    Banc Bwyd Llannon/Tymbl £6,000

8)    CETMA £3,500

 

Dywedwyd wrth yr Aelod Cabinet pe bai pob cais yn cael ei gymeradwyo byddai cyfanswm y dyfarniad grant yn £65,300 gan adael swm o £25,856. Er i'r adroddiad argymell trosglwyddo'r swm oedd heb ei ddyrannu i Gronfa Tlodi ehangach y Sir, dywedwyd bod 16 o'r sefydliadau a nodir yn yr adroddiad heb ymateb i gais cychwynnol y cyngor na'r nodyn atgoffa e-bost dilynol. O ganlyniad, holwyd a fyddai'n ddoeth gohirio trosglwyddo'r cyllid oedd heb ei ddyrannu am y tro er mwyn caniatáu amser i gysylltu â'r sefydliadau hyn eto.

 

PENDERFYNWYD

4.1

Bod yr 8 cais am arian gan y Gronfa Cymorth i Aelwydydd, y nodir y symiau uchod, yn cael eu cymeradwyo;

4.2

Bod yr argymhelliad i drosglwyddo'r £25,856 sy'n weddill yn y Gronfa Cymorth i Aelwydydd i Gronfa Tlodi ehangach y Sir ddim yn cael ei dderbyn ar hyn o bryd er mwyn ailgysylltu â'r sefydliadau hynny nad oedd wedi ymateb i'r cyswllt cychwynnol i weld a ydynt yn dymuno cyflwyno cais am y cyllid, gan roi 10 diwrnod iddynt gyflwyno cais

4.3

Os na fyddai'r cyllid oedd yn weddill yn y gronfa yn cael ei ddyrannu yn dilyn yr ymarfer ail-ymgynghori a nodir yn 4.2 uchod, byddai’r cyllid oedd yn weddill yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Tlodi ehangach y Sir

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau