Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd - Dydd Llun, 11eg Medi, 2023 11.30 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 28AIN MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28ain Mawrth 2023, gan ei fod yn gywir.

3.

CRONFA CYMORTH BWYD UNIONGYRCHOL pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad yn manylu ar geisiadau am gymorth drwy gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol Llywodraeth Cymru i gefnogi'r nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd.

 

PENDERFYNWYD 

 

3.1 cymeradwyo'n ôl-weithredol y gwaith o ddarparu'r Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol a weinyddir gan dîm Biwro Cyngor Sir Caerfyrddin yn yr is-adran Datblygu Economaidd;

 

3.2 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol a gafwyd fel rhan o'r Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol:

 

·       Tyisha Foodbank - £8,000

·       Christ Church Foodbank - £8,000

·       CETMA - £4,000

·       Llanelli Foodbank (Myrtle House) - £10,000

·       Llwynhendy Foodbank - £10,000

·       Salvation Army - £1,000

·       Cwmamman Pantry - £5,500

·       Llannon Pantry - £6,500

·       Llandovery Foodbank - £2,500

·       Banc Bwyd CNE - £500 (hyd at fwyafswm o £1,000 os bydd yr angen yn codi);

 

3.3 cymeradwyo dirprwyo'r grym i'r Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol ddyfarnu cyllid ar gyfer rowndiau pellach os daw cyllid ychwanegol ar gael a phenderfynu ar gais hwyr a ddaeth i law gan Fanc Bwyd Rhydaman.