Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 12FED IONAWR 2023 pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12fed Ionawr 2023, gan ei fod yn gywir.

 

3.

PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2023/24 pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad i gadarnhau'r cynnydd yn y rhenti wythnosol ar gyfer safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24. Hysbyswyd yr Aelod Cabinet fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Dreth Gyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd. Er bod pob Awdurdod Lleol a Chymdeithas Dai yng Nghymru wedi alinio â'r polisi pennu rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â'r lefelau rhent ar gyfer tai cymdeithasol, nid oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly nid oedd y lefelau rhent a godir yn cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, barnwyd ei bod yn deg cynyddu rhenti ar y safle gan ddilyn yr un fformiwla a ddefnyddiwyd ar gyfer tenantiaid y Cyngor. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, byddai hynny'n gynnydd o 5.5% ac argymhellwyd pennu'r lefelau rhent wythnosol ar gyfer 2023/24 ar £61.94 (net taliadau am wasanaethau a threthi d?r) gan ddarparu incwm blynyddol o £44,596.00 ar gyfer 2023/24, pe bai pob un o'r 15 llain yn cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn.

Gofynnodd yr Aelod Cabinet am sicrwydd o ran yr amodau ar y safle.

 

PENDERFYNWYD:

3.1

pennu mai £61.94 fyddai'r rhent wythnosol am leiniau ar Safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn, wedi'i gasglu dros 48 wythnos;

3.2

bod y polisi ynghylch taliadau am wasanaethau yn cael ei weithredu i sicrhau bod tenantiaid y safle yn talu am y gwasanaethau ychwanegol hyn;

3.3

pennu mai £40.13 yw'r tâl am ddefnyddio d?r, wedi'i gasglu dros 48 wythnos;

3.4

awdurdodi swyddogion i ymgynghori â phreswylwyr Pen-y-bryn a phennu'r taliadau cyffredinol a nodir yn nhabl 1.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau