Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd - Dydd Iau, 12fed Ionawr, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 1AF RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022, gan ei fod yn gofnod cywir.

3.

Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf  ar lefel y gweithgarwch cuddwylio a gynhaliwyd gan yr Awdurdod yn 2022 ynghyd ag adolygiad a gyflawnwyd o'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar gyfer gweithgarwch o'r fath

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio yn darparu fframwaith cyfreithiol lle gallai'r Cyngor ofyn am awdurdodiad i gynnal gweithgarwch cuddwylio mewn amgylchiadau cyfyngedig penodol, i adrodd yn flynyddol ar ei ddefnydd o'r pwerau hynny, parhau i adolygu ei weithdrefnau a sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi'n briodol. Nodwyd nad oedd y Cyngor wedi cynnal unrhyw wyliadwriaeth yn 2022, yn wir nid oedd wedi gwneud hynny ers 2015.

 

Nodwyd bod Swyddfa'r Comisiwn Pwerau Ymchwilio wedi arolygu gweithdrefnau'r Cyngor yn 2022 ac er bod Swyddfa'r Comisiwn yn fodlon bod yr hyn a oedd ar waith yn briodol i sicrhau cydymffurfiaeth, roedd wedi argymell mân newidiadau i weithdrefnau ysgrifenedig y Cyngor i adlewyrchu'r broses o ddileu yn ffurfiol y canllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwyliadwriaeth, a oedd wedi'u hymgorffori yng ngweithdrefnau'r Cyngor

 

O ran hyfforddiant staff, nodwyd bod 14 aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant gloywi yn 2022 ond nad oedd unrhyw hyfforddiant eang pellach yn cael ei ystyried yn angenrheidiol nac yn gymesur ar hyn o bryd o ystyried y sefyllfa nad oedd cuddwylio wedi'i wneud ers 2015.

 

PENDERFYNWYD:

 

3.1

nodi'r gweithgaredd cuddwylio yr oedd yr Awdurdod wedi ymgymryd ag ef yn 2022;

3.2

nodi canlyniad yr archwiliad ganSwyddfa'r Comisiwn Pwerau Ymchwilio

3.3

cymeradwyo'r Weithdrefn Arolygu Corfforaethol ar gynnal gwyliadwriaeth ar gyfer 2023.