Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell y Dirprwy Arweinydd, - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 17 MAWRTH 2022. pdf eicon PDF 383 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2022, gan ei fod yn gywir.

 

3.

GRANT TLODI BWYD CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU. pdf eicon PDF 441 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd yn ystyried adroddiad yn manylu ar sefydlu menteri alluogi'r awdurdod i gefnogi nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd.

 

Fel rhan o'r Cynllun Trechu Tlodi Bwyd, dyrannwyd £27,865 i Gyngor Sir Caerfyrddin ym mis Ionawr 2022,  a rhoddwyd £19,838 ohono i fanciau bwyd fel y'i cymeradwywyd gan yr Aelod Cabinet ar 26 Ionawr 2022.

 

Derbyniwyd cyllideb ychwanegol o £55,729 ym mis Ebrill 2022 gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i helpu i fynd drechu tlodi bwyd a byddai'n cael ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol 2022/23. Byddai'r prosiect yn cael ei weinyddu gan dîm Biwro canolog yr Awdurdod.  Diben yr arian ychwanegol oedd parhau i gefnogi nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd drwy ddarparu cyllid i amrywiaeth o fentrau bwyd cymunedol sy'n ei chael yn anodd diwallu anghenion eu cwsmeriaid.

 

Cynigiwyd bod yr arian ynghyd â'r tanwariant o'r dyfarniad cychwynnol (£8,027), yn parhau i gael eu dosbarthu i fanciau bwyd lleol a oedd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yn y sir.  Byddai hyn yn rhoi cymorth i brynu cyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd da a nwyddau hanfodol drwy gontract presennol y Cyngor gyda Bwydydd Castell Howell.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd y byddai'n fuddiol pe gellid safoni'r meini prawf ar gyfer defnyddio gwasanaethau banciau bwyd.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r gwaith o gyflawni'r Fenter Tlodi Bwyd.

 

4.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER CLOS TAWELAN, DATBLYGIAD NEWYDD CYMDEITHAS TAI WALES & WEST YN NHRE IOAN, CAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd yn ystyried adroddiad ar gynigion i fabwysiadu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer Clos Tawelan, datblygiad newydd Cymdeithas Tai Wales & West yn Nhre Ioan, Caerfyrddin. 

 

Nod y polisi oedd sicrhau atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, cyflawni'r amcan i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol, gan helpu i greu cymuned gynaliadwy.

 

Nododd yr adroddiad ward Tre Ioan fel ardal o angen mawr am dai, ac felly nod y datblygiad oedd mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu 18 o gartrefi rhentu cymdeithasol:-

 

·         6 o fflatiau un ystafell wely;

·         6 o dai â dwy ystafell wely;

·         5 o dai â tair ystafell wely;

·         1 byngalo â tair ystafell wely

 

Cafwyd oedi o ran y datblygiad a byddai'n cael ei drosglwyddo mewn un cam ym mis Medi ac nid ym mis Gorffennaf fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Nodwyd y byddai'r Polisi Gosodiadau Lleol hwn yn parhau ar waith am 6 mis ar ôl i'r tai cychwynnol gael eu gosod, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer y cartrefi newydd ar Glos Tawelan, sef datblygiad adeiladu newydd Cymdeithas Tai Wales & West.

 

5.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER DYLAN (CAM 3), Y BYNEA. pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd yn ystyried adroddiad ar gynigion i greu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad adeiladu newydd y Cyngor yn Dylan (Cam 3), y Bynea.  Nod y Polisi oedd yn sicrhau bod cymuned gynaliadwy ac amrywiol i bobl fyw ynddo. 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi ward Bynea fel ardal o angen mawr am dai ac wrth ddatblygu cymysgedd o dai â dwy a phedair ystafell wely a byngalos â dwy ystafell wely byddai modd mynd i'r afael â'r angen drwy ddarparu'r canlynol:-

 

·         Tai â dwy ystafell wely ar gyfer teuluoedd bach, mae hyn yn cynnwys teuluoedd sy'n tanfeddiannu cartrefi mwy yn yr ardal ar hyn o bryd:

·         Tai â phedair ystafell wely ar gyfer teuluoedd mawr, mae hyn yn cynnwys teuluoedd sy'n byw mewn llety gorlawn neu anaddas yn yr ardal;

·         Byngalos â dwy ystafell wely ar gyfer pobl h?n yn y gymuned y mae eu cartrefi presennol yn anaddas ar gyfer eu hanghenion.

 

Nodwyd bod y datblygiad yn cynnwys cyfanswm o 32 o dai.  Byddai'r trosglwyddiad yn cael ei reoli mewn tri cham a bod y Polisi Gosodiadau Lleol hwn yn ymwneud yn benodol â thai Cam 3 - sef 12 o dai â dwy ystafell wely, 4 o dai â 4 ystafell wely a 4 byngalo â dwy ystafell wely a fyddai'n cael eu trosglwyddo ym mis Awst 2022 (yn ddibynnol ar gadarnhad)

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd i'r cartrefi gael eu dyrannu nawr er mwyn rhoi'r allweddi i'r tenantiaid cyn gynted ag y byddai'r eiddo'n cael ei drosglwyddo.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer y datblygiad tai newydd yn Dylan (Cam 3), y Bynea.

 

6.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER PARC Y DRESSIG, DATBLYGIAD NEWYDD CYMDEITHAS TAI BRO MYRDDIN YN HENDY-GWYN AR DAF pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd yn ystyried adroddiad ar gynigion i fabwysiadu Polisi Gosodiadau Lleol (LLP) ar gyfer Parc y Dressig, datblygiad newydd Cymdeithas Tai Bro Myrddin yn Hendy-gwyn ar Daf. 

 

Nod y polisi oedd sicrhau atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, cyflawni'r amcan i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol, gan helpu i greu cymuned gynaliadwy.

 

Nododd yr adroddiad ward Hendy-gwyn ar Daf fel ardal o angen mawr am dai, ac felly nod y datblygiad oedd mynd i'r afael â hyn drwy ddarparu 15 o gartrefi rhentu cymdeithasol:-

 

·         9 o dai â dwy ystafell wely

·         4 o dai â tair ystafell wely;

·         2 o dai â pedair ystafell wely;

 

Byddai'r datblygiad yn cael ei drosglwyddo mewn un cam ym mis Medi 2022.

 

Nodwyd y byddai'r Polisi Gosodiadau Lleol hwn yn parhau ar waith am 6 mis ar ôl i'r tai cychwynnol gael eu gosod, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd yr angen i gymhwyso'r polisi dyrannu y cytunwyd arno yn gadarn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer y cartrefi newydd ym Mharc y Dressig,  sef datblygiad adeiladu newydd Cymdeithas Tai Bro Myrddin

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau