Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi - Dydd Iau, 29ain Hydref, 2026 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Eitem ar yr Agenda

Datganiad

E.M.J.G. Schiavone

3. CRONFA CYMORTH TRECHU TLODI 2026/27

Mae ei wraig yn gweithio i Fanc Bwyd Caerfyrddin, ac mae ef yn ymddiriedolwr. Arhosodd yn y cyfarfod gan nad oedd yr adroddiad yn ymwneud yn benodol â Banc Bwyd Caerfyrddin.

 

 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 MEDI 2026 pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2026, gan ei fod yn gywir.

3.

CRONFA GYMORTH TLODI 2026/27 pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Cafodd yr Aelod Cabinet adroddiad ar sefydlu'r Gronfa Cymorth Trechu Tlodi. Bwriad y gronfa hon fyddai cefnogi anghenion pobl sy'n wynebu tlodi yn Sir Gaerfyrddin.

 

Nodwyd yn yr adroddiad bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ar gyfer 2026/2027 i helpu i gyflawni mentrau atal tlodi a chymorth bwyd brys lleol, lleihau caledi, cryfhau gwydnwch a gwella mynediad at gymorth i drigolion y mae tlodi a phwysau costau byw yn effeithio arnynt fwyaf.

 

Dywedwyd wrth yr Aelod Cabinet bod Cronfa Cymorth Bwyd Brys wedi'i derbyn yn y blynyddoedd blaenorol, ynghyd â chronfa refeniw a chyfalaf ar gyfer prosiectau cymunedol. Mae'r rhain bellach wedi'u cyfuno i greu Pecyn Cyllido Cymorth Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru (2026/27) gwerth £303,171.

 

Y dull a gynigiwyd oedd rhannu'r cyllid hwn yn dair cronfa gyllid ar gyfer grantiau trydydd parti, fel a ganlyn:

 

-          Cymorth i Fanciau Bwyd a Phantrïau

-          Gwaith Atal Tlodi Ehangach

-          Cyllid Cyfalaf

 

Roedd rhagor o fanylion am y cronfeydd cyllid hyn yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

3.1 cymeradwyo sefydlu'r Gronfa Cymorth Trechu Tlodi a gyllidir gan Becyn Cyllido Cymorth Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru 2026/27.

 

3.2 cymeradwyo dirprwyo'r gwaith o ddyfarnu cyllid i ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer amrywiol grantiau trydydd parti i'r Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo.