Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan William Bramble (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Penfro), y Cynghorydd David Simpson (Cyngor Sir Penfro), y Cynghorydd Rob Stewart (Arweinydd, Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Sir), Mark Campion (ESTYN), Martin Nicholls, (Prif Weithredwr, Dinas a Sir Abertawe), y Cynghorydd Lyndon Jones (Cadeirydd Craffu, Cyngor Dinas a Sir Abertawe), Jon Haswell Swyddog S151, (Cyngor Sir Penfro) a Karen Newby Jones (ESTYN).
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
COFNODION CYFARFOD PARTNERIAETH AR 3 CHWEFROR 2023 PDF 121 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Cysgodol Partneriaeth a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2023 yn gywir.
|
|
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion yn codi o'r Cofnodion.
|
|
LLYTHYR GAN GADEIRYDD GRWP CYNGHORWYR CRAFFU PARTNERIAETH PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cydbwyllgor lythyr gan Gadeirydd Gr?p Cynghorwyr Craffu yn edrych yn ôl ar y sylwadau yn dilyn cyfarfod diwethaf y Gr?p ar y 13 Chwefror, 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn y llythyr sydd wedi'i atodi i'r adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllideb Ddrafft Partneriaeth ar gyfer 2023-24 a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig Drafft ar gyfer 2023-24 i 2026-27.
Cymeradwywyd y Gyllideb Ddrafft 'mewn egwyddor' ar gyfer 2023-24 gan y Cyd-bwyllgor gyda chymeradwyaeth ffurfiol i ddod yn ystod cyfarfod y Cyd-bwyllgor heddiw. Anfonwyd e-bost at Aelodau'r Cydbwyllgor ar 27 Mawrth 2023 gyda phob Aelod yn cadarnhau ei gymeradwyaeth 'mewn egwyddor’.
Datblygwyd y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig Drafft ar gyfer 2023-24 i 2026-27 mewn ymgynghoriad â Swyddog Arweiniol Partneriaeth a'r tri Chyfarwyddwr Addysg.
Bu nifer o newidiadau i'r Gyllideb Ddrafft yn dilyn cael cadarnhad ar 18 Mai 2023 o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24:
· Roedd cyllid Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol yn llai na'r disgwyl oherwydd bod elfen Cymraeg mewn Addysg y Grant Gwella Addysg yn cael ei ddirprwyo'n uniongyrchol i Awdurdodau Lleol, felly mae'r gyllideb ar gyfer Amcanion y Cynllun Busnes wedi'i diwygio yn unol â hynny.
· Cadarnhad o incwm secondiad gan Lywodraeth Cymru, mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y gyllideb costau staffio.
· Cadarnhad o newidiadau i strwythur staffio ac ail-gyfrifo’r costau staffio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL :
6.1 Bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi. 6.2 Bod y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 yn cael ei chymeradwyo. 6.3 Bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig Drafft ar gyfer 2023-24 i 2026-27 yn cael ei gymeradwyo. 6.4 Bod y Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer 2023-24 yn cael ei gymeradwyo. 6.5 Bod y cyfraniad o'r gronfa wrth gefn ar gyfer 2023-24, yn lle cyfraniadau'r Awdurdodau Lleol yn cael ei gymeradwyo. 6.6 Bod y defnydd o'r £1.492m o'r cronfeydd wrth gefn a'r balansau gan ERW i greu balans gwaith o £0.100m ar gyfer Partneriaeth a chronfa wrth gefn o £1.392 miliwn ar gyfer Partneriaeth yn cael eu cymeradwyo.
|
|
PERFFORMIAD PARTNERIAETH 2022-23 PDF 99 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyd-bwyllgor drosolwg o'r ddarpariaeth a'r perfformiad drwy gydol cyfnod Cynllun Busnes 2022-23 er mwyn eu nodi a'u derbyn.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod Partneriaeth yn cynnig ystod briodol o gymorth ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol. Gwelir hyn mewn ystod o grwpiau rhanddeiliaid yn ogystal â chydweithio cadarn gyda chydweithwyr yn yr Awdurdodau Lleol. Mae swyddogion yn darparu cefnogaeth bwrpasol ac addas i ysgolion a chlystyrau.
Yn ystod deuddeg mis cyntaf Partneriaeth fel gwasanaeth rhanbarthol, mae uwch swyddogion wedi parhau i dderbyn adborth gonest gan swyddogion yr Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau darpariaeth sydd wedi'i mireinio lle bo hynny'n briodol. O ganlyniad, mae ymgysylltu, ymddiriedaeth ac ansawdd wedi gwella. Disgwylir y bydd adborth agored ac uniongyrchol parhaus rhwng Partneriaeth a swyddogion yr awdurdodau lleol yn fuddiol i bawb i lunio dysgu proffesiynol a datblygu arweinyddiaeth.
Mewn ymateb i ymholiad ar yr amserlen ar gyfer yr arolwg i athrawon, dywedodd Swyddog Arweiniol Partneriaeth wrth y Cyd-bwyllgor, y byddai arolwg yn cael ei anfon at bob Pennaeth mewn modd amserol gyda phob athro yn cael mynediad trwy amrywiol rwydweithiau. Nodwyd y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.
Cafwyd nifer o sylwadau yn diolch i Partneriaeth am y gwaith gwerthfawr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei nodi a'r adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
CYNLLUN STRATEGOL/CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH 2023-24 PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Gynllun Strategol a Chynllun Busnes Partneriaeth ar gyfer 2023-24 er mwyn eu cymeradwyo.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod y Cynllun Strategol ar gyfer 2023-26 wedi'i ddatblygu i roi trosolwg o feysydd blaenoriaeth y tymor canolig, sy'n gysylltiedig â meysydd cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y Cynllun Busnes ar gyfer 2023-24 hefyd yn adlewyrchu'r blaenoriaethau ac yn cynnwys targedau mesuradwy ychwanegol i gefnogi gofynion adrodd Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Busnes ar gyfer 2023-24.</AI8>
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyd-bwyllgor y Gofrestr Risg yn nodi proffil risg cyffredinol y rhanbarth.
Bydd y Gofrestr Risg yn cael ei datblygu i adlewyrchu blaenoriaethau'r Cynllun Busnes ar gyfer 2023-24 a'i chyflwyno yn ystod cyfarfod y Cyd-bwyllgor yn yr hydref.
Nodwyd bod y risgiau canlynol o debygolrwydd canolig ac effaith uchel:-
· Prydlondeb Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid · Diffyg Eglurder o ran swyddogaethau Partneriaeth
Nodwyd bod ESTYN yn arolygu Cyngor Sir Caerfyrddin ar hyn o bryd ac y byddai eu canfyddiadau yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Busnes nesaf.
Cafwyd cynnig i adolygu'r aelodaeth ar gyfer y Cyd-bwyllgor o fewn y rheolau sefydlog, er mwyn caniatáu hyblygrwydd wrth enwebu aelodau parhaol. Bydd adroddiad yn cael ei ystyried yn ystod cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor yn y dyfodol i'w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
9.1 bod y proffil risg yn cael ei nodi 9.2 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn 9.3 bod aelodaeth y Cyd-bwyllgor yn cael ei adolygu a bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol i'w gymeradwyo
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTERIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau busnes eraill y dylid eu hystyried fel mater o frys.
|