Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Wendy Walters (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin), William Bramble (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Penfro), Cynghorydd David Simpson (Cyngor Sir Penfro), Cynghorydd Rob Stewart (Arweinydd, Cyngor Dinas a Sir Abertawe), Mark Campion (ESTYN) a Karen Newby Jones (ESTYN).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

ENW

EITEM

BUDDIANT

Helen Morgan Rees

5

Enwebwyd ar gyfer Cyfarwyddwr Arweiniol

Martin Nicholls

5

Enwebwyd ar gyfer Prif Weithredwr Arweiniol

 

3.

COFNODION CYFARFOD PARTNERIAETH AR 7 HYDREF, 2022 pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2022 yn gofnod cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

17 Hydref, 2022 - Cofnod Eitem 6

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch swyddfeydd, cafodd aelodau wybod bod gostyngiad o 50% yn y defnydd o swyddfeydd a byddai un cyfeiriad busnes ar gyfer Partneriaeth yn cael ei ystyried.

5.

PRIF WEITHREDWR ARWEINIOL PARTNERIAETH A CHYFARWYDDWR ARWEINIOL PARTNERIAETH pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod:

 

5.1 Martin Nicholls yn cael ei benodi'n Brif Weithredwr Arweiniol

5.2 Helen Morgan Rees yn cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Arweiniol

 

6.

LLYTHYR GAN GADEIRYDD GRWP CYNGHORWYR CRAFFU PARTNERIAETH pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cydbwyllgor lythyr gan Gadeirydd y Gr?p Cynghorwyr Craffu Partneriaeth yn adlewyrchu ar y sylwadau yn dilyn cyfarfod diwethaf y Gr?p ar y 24 Hydref, 2022.

 

Bydd cyfarfodydd y Gr?p yn y dyfodol yn cyd-fynd â chyfarfodydd y Cyd-bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y llythyr.

 

 

 

 

 

 

 

7.

ADRODDIAD ARIANNOL PARTNERIAETH 2022-23 (RHAGFYR 2022) pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cydbwyllgor ddiweddariad ar sefyllfa ariannol Partneriaeth ar ddiwedd Rhagfyr 2022.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth fanwl benodol mewn perthynas â'r canlynol:

 

·         Cytundebau Lefel Gwasanaeth

·         Cyfraniadau Awdurdod Lleol

·         Monitro'r Gyllideb - Rhagfyr 2022

·         Incwm Grant ar gyfer 2022-23

·         Risgiau a Chyfleoedd

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

6.1 bod yr adroddiad ariannol fel yr oedd ym mis Rhagfyr 2022 a'r alldro a ragwelirar gyfer 2022-23 yn cael eu nodi;

 

6.2 bod y gyllideb ddiwygiedig ar gyfer 2022-23 a'r incwm grant a'r

dyraniad ar gyfer 2022-23 yn cael eu cymeradwyo

 

8.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO MEWNOL 2022-23 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor Raglen Waith Archwilio Mewnol 2022-23 Partneriaeth i'w hystyried.

 

Mae'r Rhaglen Waith yn nodi'r amcanion allweddol, cwmpas, dull gweithredu a’r trefniadau adrodd. Datblygwyd y Rhaglen Waith mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Addysg Arweiniol, y Swyddog Adran 151, y Swyddog Monitro a Swyddog Arweiniol Partneriaeth.

Bydd y gwaith maes o ran Archwilio Mewnol yn cael ei gynnal rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023.  Ar ddiwedd y gwaith maes bydd adroddiad Archwilio Mewnol yn cael ei gyhoeddi i'r priod Swyddogion i'w hystyried.  Ar ôl darparu adborth i'r Archwiliad Mewnol, bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor yn ystod tymor yr Haf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Waith Archwilio Mewnol 2022/23.

 

9.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth bresennol Partneriaeth.

 

Yn ystod y chwe mis cyntaf, mae swyddogion Partneriaeth wedi derbyn adborth gonest gan swyddogion yr awdurdodau lleol er mwyn mireinio'r ddarpariaeth i fodloni anghenion lleol. O ganlyniad, mae ymgysylltu, ymddiriedaeth ac ansawdd wedi gwella. Disgwylir y bydd adborth agored ac uniongyrchol rhwng Partneriaeth a swyddogion yr awdurdodau lleol yn fuddiol i bawb i lunio dysgu proffesiynol a datblygu arweinyddiaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd, dywedodd Swyddog Arweiniol Partneriaeth wrth y Cyd-bwyllgor y bydd data yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r diweddariad. 

 

10.

COFRESTR RISGIAU pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor broffil risg cyffredinol y rhanbarth. Nodwyd bod y risgiau canlynol o debygolrwydd canolig ac effaith uchel:

 

·         Methu â chefnogi Awdurdodau Lleol mewn meysydd perthnasol yn ystod eu hymgysylltiad ag Estyn

·        Prydlondeb Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid

·         Diffyg Eglurder o ran swyddogaethau Partneriaeth

 

Ychwanegwyd sylw arall at Risg Canolog 1 i adlewyrchu'r risg sy'n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru.

 

 

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

10.1.      Nodi'r proffil risg

10.2.      Derbyn yr adroddiad risg

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTERIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau