Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR AM GYFNOD O DWY FLYNEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried enwebiadau i'w penodi i swydd y Cadeirydd am gyfnod o ddwy flynedd.

 

PENDERFYNWYD y bydd yr aelod canlynol yn cael ei ethol:-

 

1.1

Penodi'r Cynghorydd Darren Price (Arweinydd, Cyngor Sir Caerfyrddin) yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth

 

 

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd William Bramble (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Penfro) a Chris Llewelyn (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru). Roedd Sharon Davies (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) yn bresennol yn y cyfarfod ar ei ran.

 

(Noder: Gadawodd y Cynghorydd Rob Stewart y cyfarfod bryd hynny)

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

4.

COFNODION CYFARFOD PARTNERIAETH AR 29 EBRILL 2022 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

.

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2022 yn gofnod cywir.

 

5.

MATERION YN CODI O'R COFNODION

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2022.

 

6.

ADRODDIAD ARIANNOL PARTNERIAETH 2022-23 (AWST 2022) pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Partneriaeth ar ddiwedd mis Awst 2022 a'r alldro a ragwelir ar gyfer 2022-23.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth fanwl benodol mewn perthynas â'r canlynol:

 

·         Cytundebau Lefel Gwasanaeth

·         Cyfraniadau Awdurdod Lleol

·         Cyllideb Amlinellol Partneriaeth 2022/23

·         Monitro'r Gyllideb – Awst 2022

·         Incwm Grant ar gyfer 2022-23

·         Risgiau a Chyfleoedd

 

Cynghorwyd y Cyd-bwyllgor, oherwydd bod cynigion cyflog yn uwch na'r hyn yn y gyllideb, bydd angen newid y gyllideb pan fydd y cynigion cyflog wedi'u cwblhau. Bydd angen i'r Cyd-bwyllgor ystyried ariannu'r pwysau hyn yn y dyfodol.

.

Cyfeiriwyd at y swyddfeydd a ddefnyddir gan Partneriaeth ac awgrymwyd o bosib defnyddio swyddfeydd y Cyngor o fewn y tri Chyngor yn unig i wneud arbedion effeithlonrwydd.  Dywedwyd y bydd swyddfeydd yn cael eu hystyried yn ystod y flwyddyn, i weld a ellid gwneud unrhyw arbedion cyllideb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

6.1         Nodi adroddiad monitro'r gyllideb fel yr oedd ym mis Awst 2022;

6.2         Nodi'r alldro a ragwelir ar gyfer 2022-23

 

 

 

7.

SIARTER ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor fersiwn ddrafft o Siarter Archwilio Mewnol Partneriaeth i'w hystyried.

 

Bydd y Siarter Archwilio Mewnol yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan y Pennaeth Archwilio Mewnol a bydd yn cael ei chyflwyno'n ôl i'r Cyd-bwyllgor pe bai angen gwneud unrhyw newidiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r fersiwn ddrafft o'r Siarter Archwilio Mewnol.

 

 

 

 

 

8.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH / CYNLLUN BUSNES 2022-23 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor gyflwyniad ynghylch trosolwg o'r gwaith a wnaed y tymor hwn yn ogystal â chynlluniau ar gyfer cyflawni a monitro Cynllun Busnes 2022-23 a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth bresennol Partneriaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd, dywedodd Swyddog Arweiniol Partneriaeth wrth y Cyd-bwyllgor y bydd Adroddiad Gwerthuso yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth ar gyfer 2022-23, sydd wedi'i atodi i'r adroddiad hwn.

 

 

 

9.

COFRESTR RISGIAU pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor broffil risg cyffredinol y rhanbarth. Nodwyd bod y risgiau canlynol o debygolrwydd canolig ac effaith uchel:

 

·         Methu cefnogi Awdurdodau Lleol mewn meysydd perthnasol wrth ymgysylltu ag Estyn

·          Prydlondeb Cyllid Llywodraeth Cymru

·         Diffyg Eglurder o ran swyddogaethau Partneriaeth

 

Gwnaed ymholiad ynghylch risg y cwricwlwm, ac mewn ymateb i hynny, cafodd y Cyd-bwyllgor wybod y byddai'r naratif yn cael ei gryfhau drwy ychwanegu rhagor o wybodaeth.

 

PENDERFYNWYD:-

9.1.      Nodi'r proffil risg

9.2.      Derbyn yr adroddiad risg, yn amodol ar ychwanegu gwybodaeth

            ychwanegol fel yr uchod.

 

 

 

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTERIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau