Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod Penderfyniadau ar y Cyd Aelodau'r Cabinet l dros Adnoddau a Tai (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 12fed Mawrth, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

COFNOD PENDERFYNIAD - 23 GORFFENNAF 2015 pdf eicon PDF 269 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn Cofnodion Penderfyniadau cyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2015.

 

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 A 16 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 14 ac 16 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

4.

TÂL AM WASANAETHAU EIDDO PRYDLESOL - HEOL WALLASEY

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng nghofnod 3 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf), a gwybodaeth y gellid honni braint gyfreithiol broffesiynol mewn perthynas â hi mewn achosion llys cyfreithiol (Paragraff 16 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith y byddai gan ddatgelu'r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad hwn fel datgeliad y potensial i gael effaith anghymesur ar yr unigolion dan sylw ac na fyddai'n angenrheidiol at unrhyw un o'r dibenion a nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf Diogelu Data 1998. At hynny, roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth freintiedig gyfreithiol a fyddai, pe bai'n cael ei datgelu, yn tanseilio gallu'r Cyngor i gymryd neu amddiffyn camau cyfreithiol mewn perthynas â thaliadau gwasanaeth lesddaliad, a thrwy hynny niweidio'r pwrs cyhoeddus.

 

Ystyriodd Aelodau'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau a Thai adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth gefndir am y sefyllfa o ran gwaith adeiladuyn Heol Wallasey ac adennill costau gan lesddeiliaid.

 

Nododd Aelodau'r Bwrdd Gweithredol nad oedd mater y taliadau lesddaliad wedi'i unioni.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu tri opsiwn ac yn argymell bod Aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y camau gweithredu mwyaf priodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar opsiwn 2, fel y nodir yn yr adroddiad, a'i weithredu.