Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Rob Jones (Cyngor Castell-nedd Port Talbot), yr Athro Medwin Hughes (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), Judith Hardisty (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) a Mark James (Cyngor Sir Caerfyrddin). Roedd y Cynghorydd Anthony Taylor (Cyngor Castell-nedd Port Talbot) a Dr Jane Davidson (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwyon. Roedd Wendy Walters yn bresennol yn y cyfarfod ar ran Mark James.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r Athro Iwan Davies (Prifysgol Abertawe).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD ARy 24AIN O IONAWR 2019 pdf eicon PDF 165 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2019 gan eu bod yn gywir.

 

4.

HYSBYSIAD O RAN NEWID CYNRYCHIOLAETH CYFETHOLEDIG AR Y CYD-BWYLLGOR

1.    Cymeradwyo'r hysbysiad ffurfiol gan Brifysgol Abertawe mai ei chynrychiolwyr ar y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol fydd:-

 

Yr Athro Iwan Davies

Yr Athro Steve Wilks (Aelod wrth gefn)

 

 

2.         Cymeradwyo’rhysbysiad ffurfiol gan BwrddIechyd Prifysgol Hywel Dda mai Judith Hardisty fydd eichynrychiolydd ar y Cyd-Bwyllgor yn y dyfodol (yn cymryd lle Bernadine Rees).

 

 

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried yr hysbysiadau ffurfiol canlynol o newid cynrychiolwyr cyfetholedig ar y Cyd-bwyllgor:

 

1.    Hysbysiad ffurfiol gan Brifysgol Abertawe mai ei chynrychiolydd ar y Cyd-bwyllgor o hyn ymlaen fydd yr Athro Iwan Davies, a'r Aelod Wrth Gefn fydd yr Athro Steve Wilks.

2.    Hysbysiad ffurfiol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mai ei gynrychiolydd ar y Cyd-bwyllgor o hyn ymlaen fydd Judith Hardisty, a fydd yn cymryd lle Bernadine Rees.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bernadine Rees am ei chyfraniad at y Cyd-bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'n ffurfiol y newid o ran cynrychiolwyr cyfetholedig ar y Cyd-bwyllgor.

 

5.

ADOLYGIAD ANNIBYNNOL O FARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE GAN LLYWODRAETH Y DU A LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar Adolygiad Annibynnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylai pob un o'r saith argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad gael eu derbyn a'u gweithredu cyn gynted â phosibl. At y diben hwn, gallai cynllun gweithredu gael ei lunio gan Fwrdd y Rhaglen a'i gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

 

Nododd y Cyd-bwyllgor fod yr Adolygiad Annibynnol a'r Adolygiad Mewnol yn argymell penodi Rheolwr-gyfarwyddwr annibynnol ar gyfer Swyddfa Ranbarthol y Fargen Ddinesig. Awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r argymhelliad gael ei dderbyn ac y dylai trefniadau cyllido gael eu trafod mewn cyfarfod arall er mwyn symud y pwnc yn ei flaen yn gyflym. Byddai proffil swydd ac amlinelliad o'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y rôl yn cael eu drafftio i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

 

Gwnaed sylw a fynegai gefnogaeth am benodi Cyfarwyddwr annibynnol yn y Swyddfa Ranbarthol, ond awgrymodd na ddylai cyfraniad presennol yr Awdurdodau Lleol tuag at Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sef £50k, gael ei gynyddu i gyllido'r swydd. Roedd pob Awdurdod wedi gwneud cyfraniad ariannol sylweddol at y Fargen ac roedd angen ystyried a oedd cwmpas o fewn y cyllidebau presennol i ddechrau.

 

Dywedodd y Cadeirydd na ddylid ystyried y feirniadaeth am y prosesau yn yr adolygiadau fel beirniadaeth ar y bobl, a diolchodd i Swyddogion y Fargen Ddinesig am eu gwaith. Eglurodd yr Aelodau a'r Swyddogion, er bod rhai o'r prosiectau yn cael eu hailfodelu, nad oedd unrhyw brosiectau'r Fargen Ddinesig wedi'u gohirio. Awgrymwyd bod y dull rheoli portffolios a argymhellwyd yn yr adolygiad yn darparu hyblygrwydd defnyddiol a'r cyfle i gyflwyno elfennau newydd o'r prosiectau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

5.1.  dderbyn Adolygiad Annibynnol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

5.2.  derbyn pob un o'r saith argymhelliad a wnaed yn adroddiad yr Adolygiad Annibynnol a'u cyfeirio at Fwrdd y Rhaglen er mwyn llunio cynllun gweithredu i'w ystyried yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor;

5.3.  paratoi proffil swydd drafft ac amlinelliad o'r opsiynau cyllido ar gyfer Rheolwr-gyfarwyddwr Swyddfa'r Fargen Ddinesig i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor;

5.4.  bod trafod trefniadau cyllido ar gyfer Rheolwr-gyfarwyddwr y Fargen Ddinesig yn cael eu gadael am y tro a'u trafod mewn cyfarfod ar wahân;

5.5.  peidio â chynyddu cyfraniad yr Awdurdodau Lleol, sef £50k ar hyn o bryd, i gyllido swydd y Rheolwr-gyfarwyddwr.

 

6.

ADRODDIAD YR ADOLYGIAD MEWNOL O DREFNIADAU LLYWODRAETHU BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried Adolygiad Mewnol o Drefniadau Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r holl argymhellion a wnaed yn yr adroddiad gael eu derbyn a'u gweithredu cyn gynted â phosibl. Gellid cynnwys argymhellion o'r Adolygiad Annibynnol a'r Adolygiad Mewnol yn y cynllun gweithredu (Gweler Eitem 5 yn y Cofnodion).

 

Diolchodd y Cadeirydd i Jo Hendy a'r archwilwyr eraill am eu gwaith ar yr adolygiad a'r argymhellion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1.  dderbyn yr Adolygiad Mewnol;

6.2.  derbyn yr holl argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad Mewnol a'u cyfeirio at Fwrdd y Rhaglen i'w cynnwys yn y cynllun gweithredu (Gweler Eitem 5.2 yn y Cofnodion)

 

7.

ADOLYGIAD CYNGOR SIR GAR AR BENTREF LLESIANT A GWYDDOR BYWYD LLANELLI pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiadau ar Adolygiadau Cyngor Sir Caerfyrddin o Bentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli, a oedd yn cynnwys Adolygiad Cyfreithiol Annibynnol ac Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru. Nododd y Cyd-bwyllgor fod yr Adolygiad Cyfreithiol Annibynnol yn canolbwyntio ar drefniadau caffael a llywodraethu cyn ac ar ôl y Cytundeb Cydweithio, a bod adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru yn asesu rheolaeth Cyngor Sir Caerfyrddin o brosesau, risgiau a threfniadau o ran llywodraethu a diogelu arian cyhoeddus mewn perthynas â'r prosiect.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod canfyddiadau'r ddau adolygiad wedi cael eu derbyn yn unfrydol gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin ar 4 Mawrth 2019. Roedd y Bwrdd Gweithredol wedi croesawu'r canfyddiadau, a oedd wedi canfod bod y broses briodol wedi'i dilyn a bod y Cyngor wedi ymddwyn yn briodol. Byddai'r Bwrdd Gweithredol yn parhau i fonitro'r cynnydd ac roedd yr Awdurdod yn falch nad oedd y prosiect wedi'i ohirio ac y byddai'n parhau i gael ei ystyried yn y gyfran gyntaf o brosiectau. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod yr adolygiadau wedi penderfynu na fyddai'r Cyngor yn cael ei atal rhag cydweithio ymhellach â Phrifysgol Abertawe.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi darparu llythyr yn hytrach nag adroddiad llawn a bod cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, Mr Jeremy Evans, yn bresennol yn y cyfarfod i ateb cwestiynau. Gofynnwyd a oedd yn arferol i Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu llythyrau yn hytrach nag adroddiadau adolygu llawn. Dywedodd Mr Evans fod y llythyr a'r adroddiad llawn yr un mor bwysig â'i gilydd. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi penderfynu mai llythyr oedd y ffordd fwyaf priodol o rannu'r canfyddiadau allweddol mewn modd amserol a chryno heb ailadrodd manylion o adolygiadau eraill.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch sut y mae adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru yn berthnasol i ganfyddiadau'r Adolygiad Annibynnol a'r Adolygiad Mewnol o'r Fargen Ddinesig, dywedodd Mr Evans fod gan yr adolygiadau ganolbwynt gwahanol. Roedd yr Adolygiad Annibynnol a'r Adolygiad Mewnol o'r Fargen Ddinesig yn ystyried trefniadau llywodraethu ehangach y Fargen Ddinesig. Er mwyn osgoi ailadrodd heb angen, roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi penderfynu ei fod yn briodol canolbwyntio'n benodol ar brosesau Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â phrosiect Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli a nodwyd y canfyddiadau yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi canfyddiadau Adolygiad Cyfreithiol Annibynnol Cyngor Sir Caerfyrddin ac Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Bentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli.

 

 

8.

PROSIECT MOROL DOC PENFRO pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod angen mynd i'r afael â sawl mater allweddol mewn perthynas â phrosiect Ardal Forol Doc Penfro er mwyn i'r prosiect symud ymlaen. Roedd yr achos dros gael penderfyniad y Cyd-bwyllgor wedi'i nodi mewn memorandwm gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau (ar ran partneriaid prosiect Ardal Forol Doc Penfro) a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Gofynnwyd i'r Cyd-bwyllgor ystyried tri argymhelliad allweddol. Rhoddwyd gwybod bod Cyngor Sir Penfro wedi cael cyngor gan Swyddogion Monitro a Swyddogion A.151 y Cyd-bwyllgor mewn perthynas ag argymhellion 2 a 3.

 

Mewn perthynas ag argymhelliad 2, dywedodd y Swyddogion fod cyfnodau cyflawni prosiect wastad wedi bod yn bum mlynedd ers dechrau'r Fargen Ddinesig.

 

Mewn perthynas ag argymhelliad 3, dywedodd y Swyddogion na ellid disgwyl i'r Cyd-bwyllgor gytuno ar egwyddor rhannu dyraniadau o'r cynnydd mewn ardrethi annomestig cenedlaethol gan y byddai angen adroddiad ar wahân a'n bod yn aros am wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

 

Awgrymwyd y gallai'r Arweinwyr a'r Prif Weithredwyr gynnal cyfarfod brys i drafod penderfyniadau allweddol 2 a 3. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod angen ymgysylltu ymhellach â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r dyraniadau o'r cynnydd mewn ardrethi annomestig cenedlaethol.

 

Diolchodd Arweinydd y Prosiect i'r Swyddogion A.151 a Swyddogion Monitro y Cyd-bwyllgor am eu cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1.  gymeradwyo'r newid i gwmpas prosiect Ardal Forol Doc Penfro, yn amodol ar unrhyw sylwadau gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd;

8.2.  bod yr Arweinwyr a'r Prif Weithredwyr yn cynnal cyfarfod brys i drafod y dyraniadau o'r cynnydd mewn ardrethi annomestig cenedlaethol a'r cyfnod cyflawni ar gyfer prosiectau'r Fargen Ddinesig;

8.3.  bod y penderfyniadau sydd heb gael eu gwneud mewn perthynas â'r dyraniadau o'r cynnydd mewn ardrethi annomestig cenedlaethol a'r dyddiad dechrau o ran cyfnod cyflawni'r prosiectau'n cael eu hychwanegu at y cofnod materion.

 

9.

DATBLYGU CARTREFI YN ORSAFOEDD PŴER; SEILWAITH DIGIDOL; SGILIAU A THALENTAU AC ARDAL FOROL DOC PENFRO pdf eicon PDF 200 KB

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar ddatblygiad prosiectau Cartrefi yn Orsafoedd P?er, Seilwaith Digidol, Ardal Forol Doc Penfro a'r fenter Sgiliau a Thalentau. Roedd y pedwar prosiect wedi'u hargymell fel rhan o'r ail gyfran o brosiectau i'w datblygu o fersiynau drafft i'r cam cyflwyno a chymeradwyo cynllun busnes ffurfiol.

 

Awgrymwyd y dylid cytuno ar hyblygrwydd o ran rhannu'r prosiectau'n gyfrannau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

9.1.        gymeradwyo blaenoriaeth y cynlluniau busnes canlynol:

                                  i.    Seilwaith Digidol

                                ii.    Cartrefi yn Orsafoedd P?er

                               iii.    Ardal Forol Doc Penfro

                               iv.    Sgiliau a Thalentau

9.2.       bod cyfrannau'r prosiectau'n hyblyg er mwyn galluogi dechrau ar brosiect yn gynharach.

 

10.

Y COFNOD MATERION PROSIECTAU A'R GOFRESTR RISG pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor Gofrestr Risg a Chofnod Materion Prosiectau Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Awgrymwyd bod y ddwy ddogfen yn ddogfennau drafft ac y byddai angen eu diweddaru er mwyn adlewyrchu argymhellion yr adolygiadau o'r Fargen Ddinesig (Gweler Eitemau 5 a 6 yn y Cofnodion).

 

Mewn perthynas â'r Cofnod Materion Prosiectau, gofynnwyd i Arweinwyr y Prosiectau sicrhau bod y cofnod yn gyfredol. Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor y byddai fersiynau o'r ddwy ddogfen wedi'u diweddaru yn cael eu dosbarthu cyn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

10.1.nodi Cofnod Materion Prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Chofrestr Risg y Rhaglen;

10.2.bod y ddwy ddogfen yn cael eu diweddaru i adlewyrchu argymhellion yr Adolygiad Annibynnol a'r Adolygiad Mewnol o'r Fargen Ddinesig.

 

11.

HAWLIADAU ÔL-WEITHREDOL - GWARIANT A DALWYD pdf eicon PDF 198 KB

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried adroddiad ar hawliadau ôl-weithredol am wariant a dalwyd ers 20 Mawrth 2017. Roedd y Cyd-bwyllgor Cysgodol wedi cymeradwyo hawliadau ôl-weithredol am wariant a dalwyd ar 13 Gorffennaf 2017, a byddai angen i'r Cyd-bwyllgor gydymffurfio'r penderfyniad yn ffurfiol erbyn hyn.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod Arweinwyr y Prosiectau wedi wynebu gwariant rhagarweiniol i ddatblygu'r prosiectau a'r cynlluniau busnes ac y byddai'r costau hyn yn gymwys i gael cyllid. Rhoddwyd gwybod hefyd bod y gwariant a dalwyd yn cyfeirio at gostau cyflawni a chostau rhagarweiniol. Bydd adroddiadau wedi'u diweddaru'n cael eu darparu yn y cyfarfod nesaf a fydd yn manylu ar y gwariant hyd yn hyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad ar y gwariant a dalwyd.

 

12.

GOHEBIAETH:-

12a

LLYTHYR ODDIWRTH CADEIRYDD CYD-BWYLLGOR CRAFFU DINAS-RHANBARTH BAE ABERTAWE (15fed Chwefror 2019) pdf eicon PDF 444 KB

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor lythyr gan Gadeirydd Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Bae Abertawe, dyddiedig 15 Chwefror 2019, a amlinellai ganfyddiadau ac argymhellion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2019.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyd-bwyllgor Craffu am ei waith a dywedodd y byddai ymateb drafft i'r llythyr yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r llythyr.

 

12b

LLYTHYR ODDIWRTH CADEIRYDD CYD-BWYLLGOR CRAFFU DINAS-RHANBARTH BAE ABERTAWE (5ed Mawrth 2019) pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor lythyr gan Gadeirydd Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Bae Abertawe, dyddiedig 5 Mawrth 2019, a oedd yn cynnwys argymhellion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2019.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyd-bwyllgor Craffu am ei waith a dywedodd y byddai ymateb drafft i'r llythyr yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r llythyr.

 

 

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CYD-BWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

14.

AILGYFLWYNO YR EGIN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 13 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys yr achos busnes sy'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo, a oedd yn cynnwys amcangyfrifon cost dangosol, a gallai datgelu'r amcangyfrifon cost dangosol hynny cyn caffael contractwr gwaith beryglu gwaith y caffaelwr.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr awgrym i ailgyflwyno'r cynllun busnes yn ymateb i argymhelliad yr Adolygiad Annibynnol i symud y prosiectau hynny a oedd yn agosaf at gael eu cymeradwyo yn eu blaenau (Gweler Eitem 5 yn y Cofnodion).

 

Dywedodd y Swyddog A.151 wrth y Cyd-bwyllgor, o ystyried argymhellion Adolygiad Mewnol y Fargen Ddinesig (Gweler Eitem 6 yn y Cofnodion), y dylai Eitemau 14 a 15 gael eu hystyried ar yr amod bod Awdurdodau Arweiniol y Prosiect yn cymryd cyfrifoldeb llwyr yn ariannol am eu prosiectau, gan gynnwys rheoli risgiau ariannol. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'n fater i bob Awdurdod Lleol nodi a rheoli ei risgiau ariannol ei hun.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

14.1.dynnu'n ôl cyflwyniad ffurfiol cynllun busnes pum achos llawn Yr Egin, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar 26 Tachwedd 2018;

14.2.bod cynllun busnes pum achos llawn Yr Egin yn cael ei ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo.

 

15.

AILGYFLWYNO ARDAL DDIGIDOL DINAS ABERTAWE A'R GLANNAU

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 13 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys yr achos busnes sy'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo, a oedd yn cynnwys amcangyfrifon cost dangosol, a gallai datgelu'r amcangyfrifon cost dangosol hynny cyn caffael contractwr gwaith beryglu gwaith y caffaelwr.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr awgrym i ailgyflwyno'r cynllun busnes yn ymateb i argymhelliad yr Adolygiad Annibynnol i symud y prosiectau hynny a oedd yn agosaf at gael eu cymeradwyo yn eu blaenau (Gweler Eitem 5 yn y Cofnodion).

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r ymrwymiad blaenorol o ran Awdurdodau Arweiniol y Prosiect yn cymryd cyfrifoldeb llwyr yn ariannol am reoli'r risgiau a'r atebolrwydd canlyniadol yn berthnasol, a chydnabuwyd hyn gan Ddinas a Sir Abertawe.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

15.1.dynnu'n ôl cyflwyniad ffurfiol cynllun busnes pum achos llawn Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar 26 Tachwedd 2018;

15.2.bod cynllun busnes pum achos llawn Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau yn cael ei ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau