Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell 5 - Adeulad Dysgu ac Addysgu, Campws Caerfyrddin, Prif Ysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. SA31 3EP. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a dymunodd y Pwyllgor gwellhad buan i’r Cyng. Jones.

 

Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Mr Steve Phillips, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yr Athro Richard Davies o Brifysgol Abertawe, yr Athro Andrew Davies o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bernadine Rees o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

PENODI CADEIRYDD I’R PWYLLGOR AM GYFNOD O DDWY FLYNEDD pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor y dylai Cadeirydd y Cyd-bwyllgor fod yn gynrychiolydd etholedig o Gyngor, sydd wedi'i ethol am gyfnod o ddwy flynedd yn y lle cyntaf a adolygir bob blwyddyn ar ôl hynny, yn unol ag Atodlen 1 o'r Cytundeb Cyd-bwyllgor.

 

Ar ôl cael enwebiadau,

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi’r Cynghorydd Rob Stewart yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor am y cyfnod o 31 Awst 2018 i 30 Awst 2020.

 

4.

PENODI DIRPRWY GADEIRYDDION pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod Atodlen 1 o'r Cytundeb Cyd-bwyllgor yn pennu'r weithdrefn ar gyfer penodi Dirprwy Gadeiryddion.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gadarnhau yn unol â'r Cytundeb Cyd-bwyllgor, y bydd tri arweinydd yr awdurdodau lleol sy'n weddill (y rhai nad ydynt yn Gadeirydd ar y Cyd-bwyllgor) yn Ddirprwy Gadeiryddion.

 

5.

PENODI AELODAU CYFETHOLEDIG HEB BLEIDLAIS AM GYFNOD O 5 MLYNEDD pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod Atodlen 1 o'r Cytundeb Cyd-bwyllgor yn caniatáu i'r Cyd-bwyllgor benodi aelodau sydd heb bleidlais am gyfnod o 5 mlynedd.

 

Ar ôl i'r Cyd-bwyllgor ystyried yr adroddiad,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

1.                  fod yr enwebeion canlynol yn cael eu penodi yn aelodau cyfetholedig heb bleidlais ar Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe am gyfnod o 5 mlynedd yn unol â'r telerau a nodir yn yr adroddiad:-

 

Yr Aelodau:

 

- Prifysgol Abertawe – yr Athro Richard Davies

- Prifysgol y Drindod Dewi Sant – Dr Jane Davidson

- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Bernadine Rees

- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - yr Athro Andrew Davies

 

2.              bod y dirprwyon enwebedig canlynol yn cael caniatâd i fod yn bresennol ar ran yr aelodau uchod os byddant yn absennol:-

 

Dirprwyon enwebedig:

 

- Prifysgol Abertawe – Dr Fiona Harries

- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – Gwyndaf Tobias

- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Steve Moore

- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg – Tracey Myhill

 

3.              bod Cadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd yn cael ei gyfethol ar y Cyd-bwyllgor fel aelod heb bleidlais.

 

6.

PENODI PRIF YMGYNGHORYDD A SWYDDOG CYFRIFOL pdf eicon PDF 198 KB

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor, yn unol â thelerau'r Cytundeb Cyd-bwyllgor, ei bod yn ofynnol i'r Corff sy'n Gyfrifol "Cyngor Sir Caerfyrddin" sefydlu 'Swyddfa Ranbarthol' i fod yn gyfrifol am ymdrin â materion rheoli o ddydd i ddydd mewn perthynas â'r Cyd-bwyllgor a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Fel rhan o'r cytundeb, roedd yn ofynnol i'r Cyd-bwyllgor hefyd ddynodi Pennaeth Gwasanaeth Taledig y Corff sy'n Gyfrifol yn Brif Weithredwr Arweiniol i weithredu fel ei brif ymgynghorydd a'i swyddog cyfrifol o ran rheoli a goruchwylio staff y swyddfa ranbarthol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Cytundeb Cyd-bwyllgor, ddynodi Pennaeth Gwasanaeth Taledig Cyngor Sir Caerfyrddin yn Brif Weithredwr Arweiniol ac i weithredu fel Prif Ymgynghorydd a Swyddog Cyfrifol y Pwyllgor o ran rheoli a goruchwylio gwaith y Swyddfa Ranbarthol

 

7.

SEFYDLU BWRDD RHAGLEN A PHENODI CADEIRYDD I’R BWRDD RHAGLEN pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor, yn unol â thelerau'r Cytundeb Cyd-bwyllgor, yn ystyried adroddiad a amlinellai'r trefniadau o ran sefydlu Bwrdd Rhaglen i roi Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar waith, a rhwymedigaethau'r Cynghorau mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

1.            Sefydlu Bwrdd Rhaglen yn ffurfiol yn unol â'r cylch gorchwyl y manylir arno yn y Cytundeb Cyd-bwyllgor (Atodlen 2).

 

2.            Bod Aelodaeth y Bwrdd Rhaglen yn cynnwys Pennaeth Gwasanaeth Taledig bob un o'r Cynghorau neu swyddog arall a enwebwyd gan y Pennaeth Gwasanaeth Taledig.

 

3.            Bod y cynrychiolwyr ychwanegol canlynol yn cael eu cyfethol i'r Bwrdd:-

 

Dr Fiona Harris - Prifysgol Abertawe

Gwyndaf Tobias - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Sarah Jennings - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Sian Harrop-Griffiths - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

4.                  Bod Mark James, Pennaeth Gwasanaeth Taledig Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei benodi yn Gadeirydd y Bwrdd am y 12 mis nesaf.

 

8.

CYNLLUN GWEITHREDU pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor ei bod yn ofynnol iddo gymeradwyo'r cynllun gweithredu yn ei gyfarfod cyntaf, o dan Ran 10 o'r Cytundeb Cyd-bwyllgor.   Amlinellai'r Cynllun y gweithgareddau ar lefel uchel a fyddai'n cynorthwyo'r gwaith o gyflawni Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gan gynnwys manylion am natur pob un o'r prosiectau, eu canlyniadau a'u buddion, tasgau allweddol a'r amserlen ddangosol a'r gyd-ddibyniaeth rhwng y prosiectau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor y bydd y Cynllun yn cael ei adolygu gan y Cyd-bwyllgor bob blwyddyn, ac y byddai'r adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal cyn pen blwyddyn ar ôl cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu. Ar ôl yr adolygiad cyntaf, bydd yn rhaid cynnal adolygiad newydd cyn pen blwyddyn ar ôl yr adolygiad blaenorol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor bod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gymeradwyo'r Cynllun Gweithredu er mwyn ei fabwysiadu. Awgrymodd y Prif Weithredwr Arweiniol, gan nad yw'r cynllun wedi'i gymeradwyo gan y ddwy lywodraeth, fod y Cyd-bwyllgor yn ei gymeradwyo mewn egwyddor a'i gadarnhau'n ffurfiol yn ei gyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cynllun gweithredu mewn egwyddor, yn unol â gofynion y Cytundeb Cyd-bwyllgor, a bod y cynllun terfynol yn cael ei gadarnhau yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

 

9.

CYLLIDEB COSTAU BLYNYDDOL Y CYD-BWYLLGOR pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor, fel rhan o'r Cytundeb Cyd-bwyllgor, fod y pedwar Cyngor sy'n cymryd rhan wedi cytuno y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu fel y Corff sy'n Gyfrifol am gyflawni Rhwymedigaethau'r Cynghorau mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Fel rhan o'r cytundeb hwn, roedd yn ofynnol i Gyngor Sir Caerfyrddin roi cyllideb o'r costau blynyddol i'w gymeradwyo, fel y nodir yng Nghymal 19.

 

Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i’r gyllideb weithredol ddrafft, a oedd yn cynnwys cyfraniadau cyllido prosiectau ar sail cyfraniad o 1.5%, ynghyd â chyfraniadau gan bartneriaid fel y manylir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r gyllideb dreiglol 3 blynedd 2018/19 i 2020/21 fel y nodir yn y Cytundeb Cyd-bwyllgor, a chymeradwyo cyllidebau dangosol ar gyfer y 2 flynedd ganlynol 2021/22 a 2022/23.

 

10.

Y DIWEDDARAF AM BROSIECTAU'R FARGEN DDINESIG pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan yr holl Awdurdodau Arweiniol am y prosiectau lleol a rhanbarthol canlynol:-

 

·         Isadeiledd digidol

·         Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau

·         Yr Egin

·         CENGS

·         Sgiliau a thalentau

·         Campysau Gwyddorau Bywyd a Llesiant

·         Y Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant

·         Cartrefi yn Orsafoedd P?er

·         Ardal Forol Doc Penfro

·         Ffatri'r Dyfodol

·         Gwyddoniaeth Dur

 

Mynegwyd pryder ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a sefydlwyd i gymryd lle cyllid yr UE ar ôl Brexit, gan y gallai'r meini prawf o ran poblogaeth atal ardaloedd o Gymru rhag bod yn gymwys i gael cyllid.  Dywedodd y Prif Weithredwr Arweiniol fod trafodaethau'n cael eu cynnal yn uniongyrchol â Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU er mwyn cael sicrwydd na fyddai rhannau o Gymru'n cael eu heithrio yn seiliedig ar feini prawf y Gronfa.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd ei bod yn parhau i ystyried buddsoddi mewn technoleg Morlyn Llanw, er nad yw'n rhan o'r Fargen Ddinesig.  Roedd Tasglu wedi'i sefydlu gyda chylch gwaith a rhaglen waith y cytunwyd arnynt er mwyn datblygu prosiectau. Y gobaith oedd y byddai cyfarfodydd y Tasglu'n cael eu cynnal ar yr un pryd â'r Cyd-bwyllgor, ac awgrymodd fod y Cyd-bwyllgor, er gwybodaeth, yn cael manylion Prosiectau'r Tasglu cyn iddynt gael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru eu cymeradwyo.  Byddai Rhodri Griffiths (Dirprwy Gyfarwyddwr mewn Isadeiledd Economaidd) o'r Cynulliad Cenedlaethol, yn rhan o'r Tasglu fel sylwedydd.

 

Dywedwyd bod Rhodri Griffiths hefyd wedi'i benodi'n swyddog arweiniol ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Awgrymodd y Prif Weithredwr Arweiniol fod papur trafod yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch sut y gallai'r Cyd-bwyllgor hynorthwyo Llywodraeth Cymru o ran gweithio'n rhanbarthol a dosbarthu cyllid.

 

 

PENDERFYNWYD

 

1.      derbyn statws presennol y prosiectau a ariennir o dan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

2.      ystyried papur trafod yn y cyfarfod nesaf ynghylch rôl y Cyd-bwyllgor o ran gweithio'n rhanbarthol a dosbarthu cyllid.

 

 

11.

AMSERLEN CYFARFODYDD Y CYD BWYLLGOR pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

Bu'r Cyd-bwyllgor yn ystyried amserlen arfaethedig o ran y cyfarfodydd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2018 a mis Chwefror 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Amserlen cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer y 6 mis nesaf.

 

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

13.

SEFYDLU'R BWRDD STRATEGAETH ECONOMAIDD A PHENODI CADEIRYDD AC AELODAU

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys enwau'r rheiny sy'n gwneud cais am aelodaeth ar y Bwrdd Strategaeth Economaidd.Er y byddai budd y cyhoedd yn cefnogi ymagwedd agored a thryloyw fel arfer, roedd hynny'n llai pwysig na budd y cyhoedd o ran cynnal cyfrinachedd yn yr achos hwn gan na ddylai ymgeiswyr osgoi gwneud cais am swyddi oherwydd ei bod yn bosibl y bydd eu henwau'n cael eu cyhoeddi ac na fyddant yn llwyddiannus. Byddai enwau'r rhai llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar ôl y cyfarfod.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor, o dan delerau'r Cytundeb Cyd-bwyllgor (cymal 17), y gallai'r Pwyllgor hwyluso'r gwaith o sefydlu Bwrdd Strategaeth Economaidd, byddai gan y Bwrdd gylch gwaith fel y pennir yn Atodlen 6.

 

Roedd y broses ar gyfer recriwtio aelodau i'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn destun cytundeb unfrydol aelodau'r Cyd-bwyllgor, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Roedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo'r broses a gynigir gan y Cyd-bwyllgor Cysgodol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr enwebiadau a ddaeth i law fel rhan o'r broses recriwtio ac enwebu, yn ogystal ag ystyried argymhelliad gan y Cyd-bwyllgor Cysgodol y dylai 5 cynrychiolydd y sector preifat gael eu cynyddu i 6 cynrychiolydd, yn sgil arbenigedd yr ymgeiswyr.

 

Nododd y Cyd-bwyllgor y byddai Mr Hamish Laing (Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) yn gadael ei swydd cyn bo hir a dywedwyd y byddai aelod arall yn cael ei nodi i'r Cyd-bwyllgor ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

1.      Sefydlu Bwrdd Strategaeth Economaidd yn ffurfiol yn unol â chymal 17.1 o'r Cytundeb Cyd-bwyllgor a'r cylch gorchwyl a nodir yn atodlen 6.

 

2.      Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'n swyddogol y cynigion o ran y broses recriwtio a dethol fel y cytunwyd arni gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

3.      Penodi Edward Tomp yn Gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd yn unol â'r broses recriwtio y cytunwyd arni gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

4.      Cynyddu nifer y cynrychiolwyr o'r sector preifat o 5 i 6 aelod; a 

5.      Penodi'r unigolion canlynol yn aelodau'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn unol â'r broses recriwtio y cytunwyd arni gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.:-

 

1 cadeirydd y Sector Preifat a chynrychiolydd addas arall

 

Edward Tomp - Valero UK

 

6 chynrychiolydd y Sector Preifat

James Davies - Industry Wales

Chris Foxhall - Buddsoddwr Preifat

Alec Don - MHPA – Prif Weithredwr

Nigel Short - Browns Hotel a Three Mariners yn Nhalacharn – Perchennog

Simon Holt - Wedi ymddeol yn ddiweddar fel Pennaeth Adran ac Oncolegydd Llawfeddygol Ymgynghorol yn Uned Gofal y Fron Peony, Ysbyty'r Tywysog Phillip. GIG

Amanda Davies - Prif Weithredwr Gr?p Pobl

 

1 cynrychiolydd Addysg Uwch neu Addysg Bellach

Mark Clement - Prifysgol Abertawe

Barry Liles  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau