Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd G. Thomas yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.
|
|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, T. Higgins, A. James, E.G. Thomas ac A. McPherson.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Ms Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, a Ms Joanna Dainton, Pennaeth Datblygu Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol y Bwrdd Cynllunio Ardal, a oedd yn rhoi sylw i ystod o feysydd, er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau a'u diweddaru o ran y trefniadau comisiynu presennol a'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a ddarperir. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
·
yr amcanion strategol mewn
perthynas â darparu gwasanaethau o'r fath, y trefniadau
cyllido, a'r gwasanaethau/prosiectau a gomisiynir; · datblygiadau lleol a chadarnhad o'r trefniadau llywodraethu a chynllunio sydd ar waith yn rhanbarthol.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y cyflawniadau a wnaed yn 2017, a oedd yn cynnwys dosbarthu 397 o gitiau Naloxone. Gofynnwyd pwy oedd wedi derbyn cit Naloxone. Yn ogystal, dywedwyd y gallai codi ymwybyddiaeth o Naloxone a'i ddiben fod yn fuddiol. Gellid cyflawni hyn drwy gynnal y sioe deithiol ynghylch Naloxone ar draws y sir a darparu hyfforddiant i'r rheiny sy'n goruchwylio drysau tafarnau/clybiau. Esboniodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod Naloxone yn feddyginiaeth a ddefnyddir i atal effeithiau opioidau, yn arbennig mewn achosion gorddos a bod citiau wedi'u dosbarthu'n eang. Roedd yn cydnabod y byddai codi ymwybyddiaeth yn fuddiol ac y byddai hi'n ystyried ehangu'r rhaglen hyfforddiant yn y dyfodol. Ychwanegodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) fod Naloxone eisoes yn cael ei ddosbarthu'n eang ar draws ardal Hywel Dda.
·
Codwyd pryder mawr o ran
nifer gynyddol y bobl ifanc sydd â phroblemau mewn perthynas
ag alcohol a chyffuriau, a'r amcan yw cael gwared ar broblemau yn
hytrach na'u cuddio. Roedd Cyfarwyddwr
Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod bod hwn yn faes heriol a bod ymchwil
yn cael ei wneud yn barhaus i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn
cael eu comisiynu. Roedd y Bwrdd
Cynllunio Ardal yn cynnwys aml-asiantaethau, y mae pob un ohonynt
â chyfrifoldeb i fynd i'r afael â chymhlethdod y
materion sy'n codi. Mae'r gwasanaethau
triniaeth integredig sy'n darparu dull cyfannol a gr?p deuol sy'n
cefnogi ac yn llywio materion heriol o ran iechyd meddwl a
chaethiwed.
· O ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r 5 ffordd o weithio, gofynnwyd a oedd unrhyw gydweithio â'r trydydd sector a chymunedau? Dywedodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth fod Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, sy'n wasanaeth i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU 2016-17 PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau 2016-17 a oedd yn amlinellu'r amcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth ystadegol am ystod o wahanol categorïau atgyfeirio a dadansoddiad o ddata o ran oedran, rhywedd a'r sylweddau a ddefnyddir.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i ymholiad a wnaed ynghylch digartrefedd o ganlyniad i ddibyniaeth ar alcohol/cyffuriau, dywedodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio fod yna gysylltiadau agos rhwng digartrefedd a'r defnydd o alcohol/cyffuriau, a oedd wedi'u hystyried a'u cynnwys yn y Strategaeth Ddigartrefedd.
· O ran adsefydlu, gofynnwyd a oedd y prosiect 't? sych' yn gweithio. Esboniodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio i'r Pwyllgor mai t? 5 ystafell wely yn Nh?-croes yw'r prosiect, sydd â'r nod o gynorthwyo unigolion wrth iddynt adfer drwy ddarparu cyngor arbenigol mewn amgylchedd cefnogol, a bod nifer o lwyddiannau wedi dod yn sgil y prosiect.
·
Mewn ymateb i ymholiad a
wnaed ynghylch niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol a
chyffuriau, dywedodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio
nad oedd tystiolaeth wirioneddol i awgrymu bod yna gyswllt rhwng
defnyddio cyffuriau a niwed i'r ymennydd, er bod yna dystiolaeth i
awgrymu bod yna gyswllt rhwng alcohol a phobl yn datblygu
anawsterau gwybyddol gan arwain at ddementia yn hwyrach mewn
bywyd. Fodd bynnag, gallai fod yna
gysylltiadau rhwng defnyddio cyffuriau ac effaith bosibl ar iechyd
meddwl. ·
O ran cyflwyno isafswm pris
yr uned ar gyfer alcohol yn yr Alban, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor
gan Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo
i fabwysiadu strwythur prisio unedau yng Nghymru ac mai'r gobaith
yw y byddai cytundeb ffurfiol yn cael ei wneud dros yr haf, ac
wedyn byddai cyfnod cyflwyno o 2 flynedd. · Gwnaed ymholiad ynghylch Bws Drugaid a pha mor aml mae'n cael ei ddefnyddio. Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd mai Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed oedd yn berchen ar y bws ac y byddai hi'n hapus i wneud ymholiadau a rhoi ffigurau i'r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod ar y cyd y Pwyllgorau Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 26 Medi 2016, gan eu bod yn gywir.
|