Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 27AIN CHWEFROR, 2020 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 27ain Chwefror, 2020, gan ei fod yn gywir.
|
|
FERSIWN DIWYGIEDIG O'R POLISI IECHYD A DIOGELWCH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol wedi'i ddiweddaru. Roedd y Polisi wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r mân newidiadau canlynol i'r fersiwn flaenorol: · Cyfeiriad at rôl y Cydgysylltydd Iechyd a Llesiant sydd bellach wedi'i sefydlu; · Ailenwi'r Gr?p Ymgynghorol a Risg Corfforaethol yn Gr?p Risg Ymgynghorol Cyswllt Eiddo - byddai'r cyfrifoldebau'n aros yr un fath ond cyfeirir atynt bellach fel rhai sy'n gysylltiedig ag eiddo; · Ailenwi'r Gr?p Iechyd a Diogelwch Adrannol yn Gyfarfodydd Iechyd a Diogelwch Adrannol – byddai'r cyfrifoldebau'n aros yr un fath ond byddent yn cael eu cynnal ar lefel adran neu is-adran.
Cyfeiriodd y Partner Busnes Arweiniol (Iechyd a Diogelwch) at sylwadau pellach ac awgrymodd ddiwygiadau a gyflwynwyd ers i agenda’r cyfarfod gael ei hanfon a ystyriwyd gan yr Aelod Cabinet.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol wedi'i ddiweddaru, yn amodol ar gynnwys y diwygiadau a dderbyniwyd a nodwyd ac a amlygwyd gan y Partner Busnes Arweiniol (Iechyd a Diogelwch).
|