Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30AIN HYDREF, 2017. pdf eicon PDF 220 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 30 Hydref, 2017 yn gofnod cywir.

3.

POLISI PRYNU GWYLIAU - DIWEDDARIAD. pdf eicon PDF 398 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad ynghylch y Polisi Prynu Gwyliau Blynyddol diweddaraf. Eglurwyd bod y Polisi wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol o ran prynu pensiwn yn ôl. Yn ôl y newidiadau diweddar i'r CPLlL mae'n ofynnol i weithwyr ddewis prynu pensiwn yn ôl am gyfnod o absenoldeb ychwanegol (di-dâl). Mater i'r gweithiwr yw penderfynu a ydyw'n mynd i brynu pensiwn yn ôl, a chyfrifoldeb y gweithiwr yw gwneud y trefniadau hyn yn uniongyrchol â Chronfa Bensiwn Dyfed.

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y polisi diweddaraf ac awgrymodd y newidiadau canlynol:

·         Paragraff 27 – ychwanegu brawddeg yn cyfeirio gweithwyr at y canllawiau ychwanegol i weithwyr.

·         Paragraff 19 – ei symud i baragraff 15.

·         Paragraff 24 – cynnwys manylion am yr amserlenni.

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd uchod, gymeradwyo'r Polisi Prynu Gwyliau Blynyddol diweddaraf.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau