Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 5ed Gorffennaf, 2019 yn gofnod cywir. |
|
POLISI ABSENOLDEB SALWCH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad ynghylch y Polisi Absenoldeb Salwch diweddaraf. Roedd y Polisi wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru yn dilyn sylwadau gan undebau llafur cydnabyddedig drwy Fforwm Corfforaethol Cysylltiadau â’r Gweithwyr ac ymgynghoriad dilynol â'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau a rheolwyr pobl yr Awdurdod.
Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y polisi diweddaraf ac awgrymodd y newidiadau canlynol:
· 1.0 Cyflwyniad – dylid cynnwys y canlynol yn y paragraff olaf -"ystyried symud drwy'r weithdrefn absenoldeb salwch ar sail y wybodaeth sydd ar gael" a/neu gymryd camau disgyblu, fel y bo'n briodol.
· 9.1 Cyfarfod Cefnogi'r Gweithiwr (ESM) – dylid cynnwys y gallai Skype fod yn ddull priodol o gynnal y cyfarfod.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd uchod, gymeradwyo'r Polisi Absenoldeb Salwch diweddaraf. |