Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 22AIN EBRILL 2021 pdf eicon PDF 277 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22ain Ebrill 2021, gan ei fod yn gywir.

 

3.

GRANT TLODI BWYD CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU pdf eicon PDF 444 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynigion i sefydlu cronfa trydydd parti er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd o ran bwyd. Fel rhan o'r Cais Mynd i'r Afael â Thlodi Bwyd a Mynd i'r Afael ag Ansicrwydd Bwyd i Gronfa Bontio’r UE, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dyrannu cyllideb o £45,591 o gyllid cyfalaf a £56,609 o gyllid refeniw i Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yn y sir. Cynigiwyd y dylid dosbarthu'r arian hwn drwy grant trydydd parti, a weinyddir gan yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo sefydlu cronfa trydydd parti er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd o ran bwyd.

 

 

4.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa'r Degwm

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Pontyates RFC

£3,000.00

Penybanc RFC

£2,000.00

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau