Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Mawrth, 8fed Mawrth, 2022 10.30 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 17EG CHWEFROR 2022 pdf eicon PDF 284 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17eg Chwefror 2022, gan ei fod yn gywir.

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR ,CRONFA'R DEGWM, GRONFA TLODI BWYD AR CRONFA TLODI BWYD AELWYDYDD pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cyllid a Dargedir ,Cronfa'r Degwm, Gronfa Tlodi Bwyd ar Cronfa Tlodi Bwyd Aelwydydd yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Gronfa Cyllid a Dargedir

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

CylchMeithrin Drefach Felindre

£20,000.00

Myddfai Ltd

£13,911.18

 

Cronfa'r Degwm

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

MenterCilycwm

£3,000.00

 

Gronfa Tlodi Bwyd

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Threshold DAS Ltd

£7,000.00

 

Cronfa Tlodi Bwyd Aelwydydd

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

CETMA

£3,500.00

Tyisha Food Bank

£3,500.00

Pantry Cymunedol Cwmaman

£3,000.00

Banc Bwyd CNE

£1,000.00

Llwynhendy Pemberton Forum

£3,500.00

Llandovery Youth & Community Centre

£3,500.00

Myrtle Hill Food Bank

£2,500.00

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

CEISIADAU GRANTIAU BUSNES

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r unigolion a'r busnesau a nodir yn yr adroddiad o dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried ceisiadau a dderbyniwyd am gymorth gan Chronfa Tyfu Ac Adferiad Busnes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Chronfa Tyfu Ac Adferiad Busnesyn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Chronfa Tyfu Ac Adferiad Busnes

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

GRF-401379120

Creative Bridal

£10,000.00

GF-401515108

Think Air Ltd

£1,699.60