Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 17eg Mawrth, 2022 3.30 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 8FED MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 294 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 8Fed Mawrth 2022, gan ei fod yn gywir.

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

4.

CEISIADAU GRANTIAU BUSNES

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r unigolion a'r busnesau a nodir yn yr adroddiad o dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried ceisiadau a dderbyniwyd am gymorth gan Cronfa Dechrau Busnes a Chronfa Tyfu Ac Adferiad Busnes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Cronfa Dechrau Busnes a Chronfa Tyfu Ac Adferiad Busnes yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Dechrau Busnes

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

SUG-401734644

Ty Newydd Developments

£4,961.00

SUG-402026803

First Call Community Property Services

£5,000.00

 

Chronfa Tyfu Ac Adferiad Busnes

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

GRF-401654102

Midtec Products Ltd.

£9,977.57

GRF-403734732

Landsker Archaeology Ltd

£2,230.00

GRF-403226170

Fresh Start Autos

£2,580.05