Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Mercher, 26ain Ionawr, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 15FED RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 271 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15fed Rhagfyr 2021, gan ei fod yn gywir.

 

 

3.

GRANT TLODI BWYD CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU pdf eicon PDF 351 KB

Cofnodion:

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y bwriad i sefydlu menter i alluogi'r awdurdod i gefnogi’r nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd. Cynigiwyd dosbarthu'r cyllid i fanciau bwyd lleol a oedd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yn y sir. Er mwyn nodi'r galw, byddai datganiadau o ddiddordeb yn cael eu gwahodd gan fanciau bwyd lleol, hyd at uchafswm o £3,500, i roi cymorth i brynu cyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd da a nwyddau hanfodol drwy gontract presennol y Cyngor gyda Bwydydd Castell Howell.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gwaith o gyflawni'r fenter Tlodi Bwyd y manylwyd arni yn yr adroddiad.

 

 

4.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

GronfaCyllid a Dargedir

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

Menter Cilycwm

£20,000.00

 

5.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

6.

PEBBLE & CHEESE LTD (ADHAWLIO CYMORTH GRANT)

Cofnodion:

 

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar yr opsiynau o ran adennill y cymorth grant a ddyfarnwyd i Pebble & Cheese Ltd. [Cyfeirir at gofnod 6 o Gyfarfod Penderfyniadau'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer yr Arweinydd a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2017] gan ei fod wedi dod i'r amlwg bod y busnes wedi rhoi'r gorau i fasnachu ac wedi cael ei hysbysebu ar werth ar 11 Mawrth 2020 cyn y cyfyngiadau symud a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar ymateb yr ymgeisydd yn dilyn hysbysiad o'r posibilrwydd y byddai'n rhaid adennill y grant.

 

PENDERFYNWYD peidio mynd ar drywydd y mater gan fod y grant wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith adnewyddu yn unig a hynny ar eiddo masnachol lle’r oedd angen cyflawni gwaith o’r fath.