Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Mawrth, 14eg Medi, 2021 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 27AIN GORFFENNAF 2021 pdf eicon PDF 355 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 27ain Gorffennaf, 2021, gan ei fod yn gywir.

 

3.

GRANT CYMORTH RHANDIROEDD LLYWODRAETH CYMRU. pdf eicon PDF 452 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried ceisiadau a dderbyniwyd am gymorth gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cymorth Rhandiroedd, yn dilyn cyswllt â grwpiau cymunedol a oedd yn defnyddio rhandiroedd yn y sir i sefydlu lefel y diddordeb, er mwyn cynyddu nifer y rhandiroedd o ansawdd da ledled Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cyflwyno'r Grant Cymorth Rhandiroedd a nodir yn yr adroddiad a'r ceisiadau canlynol am gymorth yn amodol ar y telerau ac amodau arferol a'r rhai a nodir yn yr adroddiad:

 

Grant Cymorth Rhandiroedd

Prosiect

Gwobr

Dwyfor Growing Space - Llwynhendy, Llanelli

£11,180.00

Centenary Accessible Allotment Project – Carmarthen 5 Fields Allotment

£1,750.00

Community Hub Project – Carmarthen 5 Fields Allotment

£800.00

Rain Water Harvesting Project – Carmarthen 5 Fields Allotment

£550.00

Parking and Road Improvement Project – Carmarthen 5 Fields Allotment

£1,200.00

Drainage and accessibility - Llannon Community Allotments

£1,000.00

Installation of toilet facilities and meeting space - Parc Hinds Allotments, Carmarthen

£11,324.00

Communal area for other users from local area - Parc Hinds Allotments, Carmarthen

£2,750.00

Creation of a parking area to improve access - Parc Hinds Allotments, Carmarthen

£4,000.00

Installation of a new perimeter fence – Carmarthen 5 Fields Allotment

£5,000.00

 

4.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR ,CRONFA'R DEGWM AR GRONFA TLODI BWYD pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cyllid a Dargedir, Cronfa'r Degwm ar Gronfa Tlodi Bwyd yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

GronfaCyllid a Dargedir

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

Llanelli Town Council [Penyfan Park Improvement Project]

£20,000.00

 

Cronfa'r Degwm

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

Llanelli Town Council [Penyfan Facilities Improvement Project]

£10,000.00

Capel Cefnberrach [Energy Efficient Heating]

£1,246.08

St Elli Parish Church Llanelli [Capital Works]

£10,000.00

 

Gronfa Tlodi Bwyd

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

Plant y Cwm

£18,000.00

Greenfield Baptist Church

£2,200.00

Llanelli Railway Good Shed Trust

£7,500.00

CAVS – Carmarthenshire Association of Voluntary Services

£19,061.16

Llwynhendy & Pemberton Forum

£9,314.73

Cwmaman Town Council

£15,542.88

Tyisha Foodbank at Tyisha Positive Action Group

£1,716.00

 

5.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

6.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Arôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yroedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'rAelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

CronfaMentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin

Cyfeirnod y Cais

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

CREF 106

Sarnau Motors Ltd

£50,000.00