Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 22AIN EBRILL 2021 PDF 277 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22ain Ebrill 2021, gan ei fod yn gywir.
|
|||||||||
GRANT TLODI BWYD CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU PDF 444 KB Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynigion i sefydlu cronfa trydydd parti er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd o ran bwyd. Fel rhan o'r Cais Mynd i'r Afael â Thlodi Bwyd a Mynd i'r Afael ag Ansicrwydd Bwyd i Gronfa Bontio’r UE, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dyrannu cyllideb o £45,591 o gyllid cyfalaf a £56,609 o gyllid refeniw i Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yn y sir. Cynigiwyd y dylid dosbarthu'r arian hwn drwy grant trydydd parti, a weinyddir gan yr Awdurdod.
PENDERFYNWYD cymeradwyo sefydlu cronfa trydydd parti er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd o ran bwyd.
|
|||||||||
CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: CRONFA'R DEGWM PDF 209 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|