Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 11EG CHWEFROR 2021 PDF 279 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11eg Chwefror 2021, gan ei fod yn gywir.
|
|||||||||||||||
CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR PDF 309 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cyllid a Dargediryn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|
|||||||||||||||
CRONFA LIFOGYDD BUSNESAU SIR GAERFYRDDIN PDF 272 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 3 Cyfarfod Penderfyniadau'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer yr Arweinydd a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2018, ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn cynnig bod y Gronfa Lifogydd Busnesau wreiddiol yn parhau er mwyn helpu busnesau Sir Gaerfyrddin i adfer yn sgil y difrod, yn enwedig o ystyried effaith Covid-19 a'r nifer cynyddol o lifogydd yn sgil stormydd. Cynigwyd ymhellach y dylid diwygio'r meini prawf cymhwysedd gwreiddiol fel y gallai busnesau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn ystod y tair blynedd diwethaf gael cymorth ariannol ar gyfer prosiectau rhagweithiol i ddiogelu eu heiddo rhag difrod a achosir gan lifogydd yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD
4.1. cymeradwyo'n ffurfiol fod y Gronfa Lifogydd Busnesau wreiddiol yn parhau er mwyn helpu busnesau Sir Gaerfyrddin i adfer yn sgil y difrod i safleoedd a achoswyd gan lifogydd;
4.2 cytuno ar ddiwygiad i'r meini prawf cymhwysedd gwreiddiol i alluogi busnesau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn ystod y tair blynedd diwethaf i gael cymorth ariannol ar gyfer prosiectau rhagweithiol i ddiogelu eu heiddo rhag difrod a achosir gan lifogydd yn y dyfodol.
|