Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Mercher, 26ain Chwefror, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU -16 IONAWR, 2020 pdf eicon PDF 285 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 16 Ionawr 2020, gan ei fod yn gywir.

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR A'R CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir a Chronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.

 

Y Gronfa Cyllid a Dargedir

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

TFF-19-06

Clwb Rygbi Llandeilo

£20,000.00

TFF-19-07

Menter Cwm Gwendraeth Elli

£20,000.00

 

Cronfa'r Degwm

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

WCF-19-35

Canolfan Gymunedol Llangadog

£2,317.63

 

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

CYMORTH ARIANNOL GAN RAGLEN ARFOR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa ARFOR.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa ARFOR yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Grant Rhaglen ARFOR

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

AG2-01

Black Dragon Crafts

£20,436.00

AG2-04

Lyfli Foods Ltd.

£50,000.00

AG2-06

Do Goodly Foods Ltd.*

£35,486.44

AG3-04

Y Stand Laeth

£32,928.55

AG3-05

Cambrian Pet Foods

£50,000.00

AG3-08

Atebol

£48,549.00

AG3-09

Llaeth Dyffryn Tywi

£24,765.00

AG3-12

Mario’s

£21,090.00

AG3-23

Mentrau Creadigol Cymru

£26,156.37

AG3-01

Fat Bottom Cakes*

£7,478.40

 

[*Rhoi cyngor pellach ynghylch defnyddio'r Gymraeg ar labeli ac ati]

 

6.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN, RHAGLEN FUDDSODDI BWRPASOL AR GYFER ADFYWIO

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin a'r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio.

 

PENDERFYNWYD

6.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin a'r Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

CREF 065

Like A Fish

£128,000.00

CREF 097

OldOak Dental

£128,000.00

 

Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio

Cyfeirnod y Cais

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

TRI PEDG

Martin Taffetsauffer [13-15 Heol yr Orsaf / 38,36,34 Stryd Inkerman, Llanelli]

£69,655.28

TRI SLG

Martin Taffetsauffer [13-15 Heol yr Orsaf / 38,36,34 Stryd Inkerman, Llanelli]

£180,000.00

 

6.2 nodi'r cais a gafwyd ynghylch 12 Heol yr Orsaf, Llanelli [cais gan eiddo CSC] am gymorth gan y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio.