Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 30AIN MEDI 2020 pdf eicon PDF 193 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi 2020, gan ei fod yn gywir.

 

3.

GRANT TLODI BWYD CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn nodi cynigion i ddosbarthu £38,570 o gyllid cyfalaf gan CLlLC i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd drwy grant trydydd parti a weinyddir gan yr Awdurdod. Byddai'r grant trydydd parti yn agored i unrhyw sefydliad â chyfansoddiad sy'n ceisio helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yn Sir Gaerfyrddin. Cynigiwyd y byddai grantiau Cyfalaf rhwng £1,000 ac uchafswm o £5,000 ar gael.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gwaith o gyflawni'r Gronfa Tlodi Bwyd drwy Grant Trydydd Parti.

 

4.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: CRONFA BUDD CYMUNEDOL MYNYDD Y BETWS, A'R CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws a Chronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Eglwys Feiblaidd Rhydaman

£5,040.00

Clwb Pêl-droed Rhydaman

£891.81

Canolfan y Mynydd Du

£10,760.00

Heddlu Dyfed-Powys

£2,500.00

Clwb Golff Aelodau Parc y Garnant

£15,000.00

Clwb Golff Glynhir

£10,000.00

Sefydliad Jac Lewis

£15,000.00

Cyngor Cymuned Llanedi

£15,000.00

Cyngor Cymuned Llanedi

£12,000.00

Institiwt a Neuadd Goffa Pen-y-groes

£8,044.00

Cyngor Tref Cwmaman

£10,997.15

Cyngor Tref Rhydaman

£9,636.00

 

Cronfa'r Degwm

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Addolai Cymru

£3,000.00

Gofal Canser Tenovus

£3,000.00

Eglwys Feiblaidd Rhydaman

£3,000.00

Sefydliad Jac Lewis

£3,000.00

Clwb Golff Glynhir

£1,300.00

 

 

5.

Y GRONFA CYLLID A DARGEDIR pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y diwygiadau arfaethedig i'r meini prawf presennol sy'n ymwneud â Chronfa Cyllid a Dargedir yr Awdurdod, er mwyn diwallu anghenion presennol y trydydd sector yng ngoleuni'r sefyllfa sydd ohoni. Ceisiwyd cymeradwyaeth hefyd ar gyfer dyrannu cyllid i gynllun peilot sy'n cael ei reoli gan Heddlu Dyfed-Powys i brofi model gwahanol i gefnogi gweithgareddau cymunedol.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1  cymeradwyo'r diwygiadau i'r meini prawf presennol y manylir arnynt yn yr adroddiad sy'n ymwneud â Chronfa Cyllid a Dargedir yr Awdurdod i ddiwallu anghenion presennol y trydydd sector yng ngoleuni'r sefyllfa sydd ohoni;

 

5.2 cymeradwyo dyraniad o £7,500.00 o gyllid i gynllun peilot sy'n cael ei reoli gan Heddlu Dyfed-Powys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau