Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin. S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||||||||||||||||||
COFNOD PENDERFYNIADAU - 5ED AWST 2020 PDF 62 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Awst 2020 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||
CRONFA ADFER CANOL TREFI - TARGEDU BUDDSODDIAD MEWN ADFYWIO PDF 128 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar Lywodraeth Cymru yn codi rhai o'i chyfyngiadau Covid-19 ar gyfer busnesau manwerthu a hamdden a lletygarwch nad ydynt yn hanfodol, lle'r oedd nifer o fusnesau yng nghanol trefi ledled y sir yn wynebu'r heriau o ailagor a gweithredu busnesau o fewn cyfyngiadau canllawiau diwygiedig y llywodraeth. Er mwyn cefnogi'r prif fusnesau hynny yng nghanol trefi ar draws Sir Gaerfyrddin, roedd Llywodraeth Cymru, yn dilyn lobïo, wedi cymeradwyo cais rhanbarthol gan Gr?p Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI) De-orllewin Cymru, drwy'r partner corff arweiniol (Abertawe), i ganiatáu brigdorri dyraniadau TRI i gefnogi adferiad canol trefi. Fel rhan o'r cais hwnnw, cynghorwyd Sir Gaerfyrddin y gellid brigdorri £75k o'i ddyraniad i gefnogi rhoi dyraniad tybiannol o £25k fesul tref ar gyfer canol tair prif dref y sir (Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli).
Wedyn rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i baramedrau/canllawiau a phrosesau'r cynllun a sut y byddai'n gweithio. Os caiff y cynllun ei fabwysiadu, y llwybrau darparu a ffefrir i sicrhau'r gwerth gorau am arian, tra'n sicrhau perchnogaeth/cefnogaeth leol/rheolaeth leol, cyflawniad amserol a rhoi ymyriad cydgysylltiedig i bob un o'r trefi fyddai:
Caerfyrddin – Cais ar y Cyd yn cael ei ddatblygu rhwng Cyngor Tref Caerfyrddin a Chais Caerfyrddin;
Llanelli - Cais ar y Cyd rhwng Cyngor Tref Llanelli a Chais Llanelli
Rhydaman – Cais cyflawni uniongyrchol yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar y cyd â Chyngor Tref Rhydaman a thasglu i'w gyflwyno naill ai gan Gyngor Sir Caerfyrddin neu gyfuniad o Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Rhydaman.
Oherwydd bod brys i gyflawni, ar ôl cael cymeradwyaeth y Panel Economaidd, byddai angen ystyried a ddylid caniatáu i ymgeiswyr fwrw ymlaen â phrosiectau tra cheisid cymeradwyaeth wleidyddol ffurfiol.
PENDERFYNWYD
|
|||||||||||||||||||||||||
CRONFA TARGEDU BUDDSODDIAD MEWN ADFYWIO ADFER CANOL TREFI PDF 84 KB Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i dri chais am Grant Adfer Menter Adfywio wedi'i Thargedu at Ganol Trefi, fel oedd wedi'i nodi yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD bod y ceisiadau canlynol am Grant Adfer Menter Adfywio wedi'i Thargedu at Ganol Trefi yn cael eu cymeradwyo yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||||||||
CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: CRONFA'R DEGWM PDF 172 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|||||||||||||||||||||||||
CYMORTH ARIANNOL GAN RAGLEN ARFOR Cofnodion: Ar ôl cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng nghofnod rhif 6 uchod, beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i gynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr Awdurdod sy'n dal y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa ARFOR.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa ARFOR yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|