Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 2 MEDI 2021 pdf eicon PDF 278 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2021, gan ei fod yn gywir.

 

 

3.

GORFODI CYNLLUNIO - PROTOCOL CAU ACHOS pdf eicon PDF 429 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r protocol a fyddai'n cynorthwyo â'r gwaith o gau hen achosion gorfodi cynllunio.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod adolygiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru o Wasanaethau Cynllunio'r Cyngor wedi tynnu sylw at yr ôl-groniad sylweddol o gwynion nad ydynt wedi eu datrys yng ngwasanaeth Gorfodi Rheolau Cynllunio Sir Gaerfyrddin.

 

Dywedwyd bod gwaith ymchwil i ddeall natur yr ôl-groniad hwn wedi nodi'r posibilrwydd o gau nifer sylweddol o achosion oherwydd ystyrir nad yw'n briodol mwyach a/neu'n ymarferol i ymchwilio ymhellach i'r cwynion.  Er mwyn pennu pa achosion a fyddai'n cael eu cau, roedd yr adroddiad yn cynnwys Protocol Cau Cais arfaethedig i'w gymeradwyo.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurwyd y terfynau amser a nodwyd yn adran 2(b) o'r protocol arfaethedig yn unol ag adran 171B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy'n galluogi Awdurdod i gymryd camau gorfodi:-

  • pedair blynedd pan fo'r achos yn cynnwys naill ai datblygiad gweithredol neu newid defnydd adeilad yn breswylfa sengl; a
  • deng mlynedd ar gyfer pob achos arall o dorri rheolaeth gynllunio. 

 

Er eglurder, gofynnodd yr Aelod Cabinet am ddiwygio adran 2(b) i ddarllen:-

 

‘Yn unol ag adran 171B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, achosion sydd wedi cael imiwnedd rhag camau gorfodi oherwydd bod cyfnodau o 4/10 mlynedd wedi dod i ben pryd nad oes hysbysiad wedi'i gyflwyno o'r blaen.’

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r protocol i gefnogi cau hen achosion gorfodi cynllunio, fel y nodir yn yr adroddiad, yn amodol ar ddiwygio adran 2(b) i ddarllen:

 

‘2(b) - Yn unol ag adran 171B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, achosion sydd wedi cael imiwnedd rhag camau gorfodi oherwydd bod cyfnodau o 4/10 mlynedd wedi dod i ben pryd nad oes hysbysiad wedi'i gyflwyno o'r blaen.’

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau