Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 2 MEDI 2021 PDF 278 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2021, gan ei fod yn gywir.
|
|
GORFODI CYNLLUNIO - PROTOCOL CAU ACHOS PDF 429 KB Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r protocol a fyddai'n cynorthwyo â'r gwaith o gau hen achosion gorfodi cynllunio.
Nododd yr Aelod Cabinet fod adolygiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru o Wasanaethau Cynllunio'r Cyngor wedi tynnu sylw at yr ôl-groniad sylweddol o gwynion nad ydynt wedi eu datrys yng ngwasanaeth Gorfodi Rheolau Cynllunio Sir Gaerfyrddin.
Dywedwyd bod gwaith ymchwil i ddeall natur yr ôl-groniad hwn wedi nodi'r posibilrwydd o gau nifer sylweddol o achosion oherwydd ystyrir nad yw'n briodol mwyach a/neu'n ymarferol i ymchwilio ymhellach i'r cwynion. Er mwyn pennu pa achosion a fyddai'n cael eu cau, roedd yr adroddiad yn cynnwys Protocol Cau Cais arfaethedig i'w gymeradwyo.
Mewn ymateb i ymholiad, eglurwyd y terfynau amser a nodwyd yn adran 2(b) o'r protocol arfaethedig yn unol ag adran 171B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy'n galluogi Awdurdod i gymryd camau gorfodi:-
Er eglurder, gofynnodd yr Aelod Cabinet am ddiwygio adran 2(b) i ddarllen:-
‘Yn unol ag adran 171B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, achosion sydd wedi cael imiwnedd rhag camau gorfodi oherwydd bod cyfnodau o 4/10 mlynedd wedi dod i ben pryd nad oes hysbysiad wedi'i gyflwyno o'r blaen.’
Penderfynwyd cymeradwyo'r protocol i gefnogi cau hen achosion gorfodi cynllunio, fel y nodir yn yr adroddiad, yn amodol ar ddiwygio adran 2(b) i ddarllen:
‘2(b) - Yn unol ag adran 171B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, achosion sydd wedi cael imiwnedd rhag camau gorfodi oherwydd bod cyfnodau o 4/10 mlynedd wedi dod i ben pryd nad oes hysbysiad wedi'i gyflwyno o'r blaen.’
|