Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diogelu'r Cyhoedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 2ail Medi, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 28 IONAWR 2021 pdf eicon PDF 286 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021 yn gofnod cywir.

 

 

3.

GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS - YMGYSYLLTU CYCHWYNNOL Â RHANDDEILIAID pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am adnewyddu'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

 

Mae'r Llywodraeth wedi gwneud darpariaethau i gyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ac ym mis Gorffennaf 2019 pan fabwysiadodd yr awdurdod 3 amod yn ymwneud â gorchmynion c?n:

 

1.   Gadael i gi faeddu heb ei godi yn unman yn Sir Gaerfyrddin lle mae gan y cyhoedd fynediad ar daliad neu fel arall yn cael ei ystyried yn drosedd

2.   Rhaid i g?n gael eu rhoi ar dennyn yn dilyn cyfarwyddyd gan swyddog awdurdodedig.

3.   Ni chaniateir c?n mewn mannau chwarae caeedig i blant.

 

Dywedwyd bod y Gorchymyn yn cael ei adolygu bob 3 blynedd ac fel rhan o'r broses ymarfer ymgysylltu, mae'n ofynnol casglu unrhyw amodau ychwanegol i'r amodau presennol a nodir ym mhwyntiau 1-3 uchod gan randdeiliaid perthnasol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig cynnal cyfnod ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol a fyddai'n cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned drwy arolwg.  Byddai ymgysylltu'n gynnar yn rhoi cyfle i gynnwys unrhyw ddarpariaethau ychwanegol y gellid ystyried eu bod yn angenrheidiol i fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â ch?n.  Byddai'r wybodaeth a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgysylltu hwn yn cael ei hystyried cyn ymgynghori ffurfiol fel rhan o'r broses o adnewyddu'r Gorchymyn presennol neu wneud Gorchymyn newydd. 

 

Nododd yr Aelod Cabinet, yn dilyn y cyfnod ymgysylltu cychwynnol o 8 wythnos ac ystyried yr adborth, y byddai'r broses ymgynghori ffurfiol yn dechrau ar ôl datblygu'r Gorchymyn/Gorchmynion drafft.

 

PENDERFYNWYD:

 

3.1               Cymeradwyo arolwg gyda rhanddeiliaid perthnasol i gasglu gwybodaeth i baratoi ar gyfer adnewyddu ein Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

 

3.2               Cymeradwyo arolwg i randdeiliaid perthnasol sef Cynghorau Tref a Chymuned a Chymdeithasau Chwaraeon i ganfod pa amodau ychwanegol yr hoffent eu hychwanegu at y ddarpariaeth bresennol (Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy'n cwmpasu'r 3 amod sy'n ymwneud â rheolaethau c?n ar hyn o bryd), neu o bosibl drwy orchmynion ychwanegol ar wahân.