Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 17EG MEDI, 2021 pdf eicon PDF 361 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi 2021, gan ei fod yn gywir.

3.

Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r defnydd o guddwylio gan yr Awdurdod yn ystod 2021. Nodwyd hefyd bod dogfen weithdrefn y Cyngor wedi'i hadolygu ac nad oedd angen unrhyw newidiadau.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

·         Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig;

·         Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol;

·         Rhyng-gipio Data Cyfathrebu;

·         Cuddwylio Anawdurdodedig;

·         Adroddiadau Ystadegol;

·         Dogfen Gweithdrefnau Cuddwylio.

·         Hyfforddiant

 

Nododd yr Aelod Cabinet nad oedd unrhyw awdurdodiadau wedi'u cyflwyno dan y Ddeddf hon yn ystod 2021 ynghylch y dull o gynnal gwyliadwriaeth gyfeiriedig, ffynonellau cuddwybodaeth ddynol a rhyng-gipio data cyfathrebu.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai sesiwn hyfforddi gloywi yn cael ei threfnu'r flwyddyn galendr hon a bod pob Cyfarwyddwr eisoes wedi cael ei ofyn i ganfasio staff ar gyfer sesiynau hyfforddi.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd y byddai'n fodlon ymgymryd â hyfforddiant uniongyrchol gyda Swyddogion Gorfodi Rheolau Cynllunio ac unrhyw swyddogion cynllunio eraill a allai elwa o ymgymryd â hyfforddiant cuddwylio. 

 

PENDERFYNWYD:

3.1 nodi'r gweithgaredd cuddwylio yr oedd yr Awdurdod wedi ymgymryd ag ef yn 2021;

 

3.2 cymeradwyo'r Weithdrefn Arolygu Corfforaethol ar gynnal gwyliadwriaeth ar gyfer 2022.

4.

DATGANIAD GORFODI RHEOLAU CYNLLUNIO'R CYNGOR pdf eicon PDF 448 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion y Datganiad Gorfodi Rheolau Cynllunio.

 

Nodwyd y cafodd y Polisi Gorfodi presennol ei ddatblygu yn 2015 a bod Polisi Gorfodi Corfforaethol cyffredinol wedi'i fabwysiadu ym mis Ebrill 2018.  Diweddarwyd y Datganiad Gorfodi Rheolau Cynllunio gwreiddiol yn dilyn canfyddiadau Adolygiad Archwilio Cymru ac i ystyried y newidiadau yn yr amgylchedd mewnol ac allanol.

 

Roedd  datganiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

·         Eglurhad ar yr hyn a oedd yn torri rheol a'r hyn nad oedd yn torri rheol.

·         Adolygiad o'r dulliau adrodd cyfredol gan gynnwys y polisi ar geisiadau am wasanaeth gan achwynwyr dienw

·         Gwybodaeth am wahanol gamau'r ymchwiliad a beth i'w ddisgwyl

·         Nodi'r Targedau Gwasanaeth yr oedd yr adran yn anelu at eu cyflawni

·         Nodi'r 3 Blaenoriaeth yn dibynnu ar ddifrifoldeb y toriad honedig a'r amserlenni ar gyfer ymweliadau gan y gwasanaeth.

·         Gwybodaeth am sut mae'r awdurdod yn rheoli canmoliaeth a chwynion

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Gorfodi Rheolau Cynllunio.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau