Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 17 IONAWR 2020 PDF 298 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2020 yn gofnod cywir.
|
|
Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar y gweithgaredd cuddwylio yr oedd yr Awdurdod wedi ymgymryd ag ef yn 2020, ynghyd â'r gweithdrefnau ysgrifenedig ynghylch y dull o gynnal cuddwylio gan staff a defnyddio cuddwylio o'r fath. Nodwyd hefyd bod dogfen gweithdrefnau'r Cyngor wedi'i hadolygu a bod newidiadau wedi'u gwneud i'r adran yn ymwneud â rhyng-gipio data cyfathrebu i adlewyrchu newidiadau i'r broses ymgeisio a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
· Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig; · Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol; · Rhyng-gipio Data Cyfathrebu; · Cuddwylio Anawdurdodedig; · Adroddiadau Ystadegol; · Dogfen Gweithdrefnau Cuddwylio.
Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol nad oedd unrhyw awdurdodiadau wedi'u cyflwyno dan y Ddeddf hon yn ystod 2020 ynghylch y dull o gynnal gwyliadwriaeth gyfeiriedig, ffynonellau cuddwybodaeth ddynol a rhyng-gipio data cyfathrebu.
PENDERFYNWYD:
3.1nodi'r gweithgaredd cuddwylio yr oedd yr Awdurdod wedi ymgymryd ag ef yn 2020;
3.2cymeradwyo'r newidiadau i'r Ddogfen Gweithdrefnau Gwyliadwriaeth Gorfforaethol ynghylch y dull o gynnal gwyliadwriaeth ar gyfer 2021.
|