Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Diogelu'r Cyhoedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 13eg Mai, 2019 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

DIWYGIAD I'R DDYLETSWYDD GOFAL AR BRESWYLWYR pdf eicon PDF 168 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r rheswm dros gymeradwyo galluogi Swyddogion Amgylcheddol i roi cosb benodedig am droseddau yn ymwneud â dyletswydd gofal gwastraff cartrefi yn hytrach nag erlyn troseddwyr drwy'r llys.

 

Mae troseddau dyletswydd gofal yn ymwneud â phreswylwyr nad ydynt yn cael gwared ar eu gwastraff yn gywir ac nid yw'n berthnasol lle caiff gwastraff ei gasglu gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

 

Nodwyd bod y gallu i roi tocyn cosb benodedig yn welliant o dan Adran 34(2A) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Y dirwyon Hysbysiad Cosb Benodedig a gynigiwyd ar gyfer torri'r ddyletswydd gofal sydd ar breswylwyr oedd £300 a chynigiwyd taliad cynnar o £150 pe bai'n cael ei dalu o fewn 10 diwrnod. Pennwyd y symiau a nodwyd yn dilyn argymhellion gan Lywodraeth Cymru i gael dull cyson o weithredu ledled Cymru.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newid i'r hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas â'r ddyletswydd gofal sydd ar breswylwyr.

 

3.

LLOFNODI BOD COFNOD PENDERYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18FED IONAWR, 2019 YN GOFNOD CYWIR pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.