Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 15FED IONAWR, 2020 pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15fed Ionawr 2020 yn gofnod cywir.

 

3.

TALIADAU HAMDDEN 2020-21 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol yr adroddiad ynghylch Taliadau Hamdden 2020-21 a oedd yn gofyn am gymeradwyo ffioedd manwl ar gyfer 2020-21 sy'n ffurfio rhan o'r cynllun cynhyrchu incwm ar gyfer yr adran hamdden yn 2020/21. Roedd yr adroddiad yn cynnwys codi tâl am y canlynol:-

 

·       Gwasanaethau Diwylliannol (Lleoliadau'r Celfyddydau a'r Theatr)

·       Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (canolfannau hamdden a phyllau nofio)

·       Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys y Parc Arfordirol y Mileniwm, a maes parcio Traeth Pentywyn; Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo taliadau Hamdden 2020-21 fel y’i nodir yn yr adroddiad gan ychwanegu taliad ar gyfer aelodaeth platfform digidol ar gyfer Chwaraeon a Hamdden sef £10 y mis a £7.50 y mis ar gyfer cwsmeriaid presennol Chwaraeon a Hamdden Actif a rhai’r dyfodol.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau