Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Evans Thomas 01267 224470
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2017 yn gofnod cywir.
|
|
CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU PDF 212 KB Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ynghylch cais am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd ei asesu ar sail ei gyfraniad at amcanion strategol yr Awdurdod o ran Twristiaeth, Cymunedau a'r Economi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Cymorth Digwyddiadau, yn amodol ar y telerau a'r amodau a bennwyd ym meini prawf y gronfa:-
Digwyddiad Dyfarniad wythnos digwyddiadau Dydd G?yl Dewi Rhydaman 2018 £510.00
|
|
CRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU 2018-2019 PDF 229 KB Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo newidiadau er mwyn gwella effeithlonrwydd y Cynllun Cymorth Digwyddiadau, a gefnogodd un deg chwech o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn ariannol 2017/2018, a oedd wedi gwneud cyfraniad economaidd amcangyfrifedig o £1.1 miliwn.
Ar ôl adolygu'r system ddarparu ar gyfer 2017/18, daeth yn amlwg fod angen synergedd gwell o ran Ymgyrchoedd Twristiaeth Cymru (e.e. Blwyddyn y Môr 2018 a Blwyddyn Darganfod 2019) yn ogystal ag ymgyrchoedd Sir Gaerfyrddin fel Tref a Phentref Diwylliant a Beicio. Newidiwyd y meini prawf a'r nodau i adlewyrchu hyn, a byddai partïon sydd â diddordeb yn cael eu hysbysu am y newidiadau hyn ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo.
Byddai angen rhoi cyfres o gamau hyrwyddo effeithiol ar waith er mwyn cynnwys rhagor o ddigwyddiadau posibl, wrth i ni geisio ehangu'r portffolio gyda'r bwriad o ddarparu mwy o weithgareddau yn ystod y misoedd tawel. Credir y byddai'n fuddiol i gynnwys amodau ychwanegol penodol yn y llythyr cynnig fesul digwyddiad, yn dibynnu ar yr amcanion perthnasol e.e. darparu llety i dwristiaid ar gyfer digwyddiadau mwy, defnyddio hashnodau penodol megis diwylliant neu feicio.
Mae system 2017/18 lle cyflwynir ceisiadau i gyfarfodydd misol yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, wedi sicrhau cyfle rheolaidd penodedig, ond credwyd y gellid gwerthuso ac ystyried ceisiadau yn well pe byddai swyddogion yn adolygu ac yn gwerthuso bob chwarter. Byddai hyn yn sicrhau y dyrennir arian yn well drwy gydol y flwyddyn.
Rhoddwyd ystyriaeth i adolygu'r isafswm a'r uchafswm o ran y symiau a roddir, ac a fyddai nodau strategol yn cael eu cyflawni drwy geisio rhoi symiau llai i nifer o ddigwyddiadau neu symiau llawer mwy i lai o ddigwyddiadau. Barnwyd, fodd bynnag, fod y meini prawf presennol yn caniatáu digon o hyblygrwydd i'r Awdurdod ddadansoddi a chefnogi (os cytunir) amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gwyliau, newydd a hen, a hynny mewn modd effeithiol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau i feini prawf y Gronfa Cymorth Digwyddiadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19, yn unol â'r adroddiad.
|